– Senedd Cymru ar 9 Hydref 2018.
Daw hyn â ni at y ddadl ar adroddiad blynyddol ‘Ffyniant i Bawb’ a’r rhaglen ddeddfwriaethol. Galwaf ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Diolch, Llywydd. Dros y ddegawd ddiwethaf, rwyf wedi bod yn rhoi adroddiadau cyson ar lwyddiant nodedig y Llywodraeth hon ynglŷn â gwella ffyniant i bawb. Nid ydym byth wedi bod yn rhy ofnus, wrth gwrs, i gymryd y llwybr sy’n iawn i Gymru, hyd yn oed os yw’r llwybr hwnnw’n wahanol i bawb arall, neu, yn wir, os mai ni yw’r cyntaf i droedio’r llwybr hwnnw.
Ers i'r Cynulliad fod yn ddeddfwrfa lawn, rydym wedi cyflwyno 34 o Filiau sydd bellach yn Ddeddfau a 18 o Fesurau a gynigiwyd gan y Llywodraeth. Defnyddiwyd y pwerau hyn i ddatblygu fframwaith ar gyfer twf ac i sicrhau gwelliannau i bobl Cymru. Rydym wedi arwain y ffordd yn y DU gyda deddfwriaeth i gyflwyno'r system gyntaf o gydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau. Rydym yn defnyddio deddfwriaeth i ddiogelu a hybu iechyd, gan gyflwyno'r gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yn 2007, ac yn fwyaf diweddar i sefydlu isafbris alcohol. Yn y flwyddyn sydd i ddod, byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i sefydlu dyletswydd ansawdd ar gyfer GIG Cymru a dyletswydd gonestrwydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Llywydd, ein deddfwriaeth ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol oedd y gyntaf o'i bath yn y DU, a bydd yn gwella sut yr ydym ni'n ymateb i'r materion hyn ac yn mynd i'r afael â nhw. Hefyd, rydym wedi arwain o ran amddiffyn hawliau plant ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, sy'n garreg filltir yn y maes, a byddwn yn parhau i weithredu i amddiffyn plant a hawliau plant drwy gyflwyno Bil i ddileu'r amddiffyniad i gosb resymol gan wahardd y defnydd o gosb gorfforol.
Llywydd, cafodd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ei phasio, sydd wedi cael canmoliaeth yn rhyngwladol, ac sydd hefyd yn darparu'r sail inni allu buddsoddi er budd Cymru yn yr hirdymor. Wrth gwrs, nid ymdrech unigol yw hon, a hoffwn dalu teyrnged heddiw i'r gwaith caled a'r craffu gan y Cynulliad a'i bwyllgorau. Nid yw craffu bob amser yn waith cyfforddus, ond heb os, mae wedi gwneud ein deddfwriaeth yn gryfach ac yn well.
Llywydd, roedd mis Ebrill eleni yn nodi cyflwyniad y trethi cyntaf yng Nghymru ers bron i 800 mlynedd—treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi. Mae'r gallu i godi trethi yn rhoi ysgogiadau newydd inni gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru a byddwn yn ymdrechu i ddarparu dull o drethu yng Nghymru sy'n dryloyw ac yn deg ac sy'n diwallu anghenion pobl, busnesau a chymunedau Cymru. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni gwelliannau ar gyfer pobl Cymru. Mae ein heconomi wedi gwella dros y 20 mlynedd diwethaf, gyda'r gyfradd ddiweithdra ar gyfer y tri mis rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2018 ar 3.8 y cant o'i chymharu â 7 y cant yn 1999.
Rydym wedi gweld gwelliant hirdymor a chynaliadwy mewn cyrhaeddiad addysgol. Mae canran y disgyblion sy'n gadael yr ysgol gynradd gydag o leiaf y lefel ddisgwyliedig mewn mathemateg, gwyddoniaeth a naill ai Saesneg neu Gymraeg wedi cynyddu'n sylweddol. Mae bellach yn 90 y cant. Am y tro cyntaf mewn degawd, gostyngodd cyfran y rhai sy'n 16 i 18 oed nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn is na 10 y cant. Mae ein dull ni wedi talu ar ei ganfed.
Llywydd, rydym hefyd wedi ystyried gwasanaeth iechyd cynaliadwy mewn modd mwy integredig. Rydym yn cydnabod bod mwy i iechyd a lles na thrin salwch ac rydym yn gweithredu ar y ffaith honno. Rydym wedi cynnal lefel ein buddsoddiad mewn gofal cymdeithasol ac wedi cymryd camau i ddylanwadu ar y ffactorau ehangach sy'n effeithio ar iechyd a lles. Mae'r gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol fesul pen yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr ac mae wedi cynyddu ar gyfradd gyflymach hefyd.
Llywydd, fis Medi diwethaf, cyhoeddwyd y strategaeth genedlaethol drawsbynciol gyntaf ar gyfer Cymru, 'Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol'. Mae hon yn nodi ein rhaglen lywodraethu uchelgeisiol a'n blaenoriaethau ar gyfer pobl Cymru. Fe'i seiliwyd ar y cyfleoedd yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol i ystyried sut rydym yn cyflawni ar gyfer Cymru a sut y gallwn weithio'n well gyda phob un o'n partneriaid, gan ddefnyddio pob ysgogiad sydd ar gael inni. Mae'r strategaeth wedi gosod nod tymor hir ar gyfer Cymru sy'n ffyniannus a diogel, yn iach ac egnïol, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, ac yn unedig a chysylltiedig. Amlinellodd y camau gweithredu y byddwn ni'n eu cymryd yn ystod tymor hwn y Cynulliad. O'r cychwyn cyntaf, nodwyd pum maes blaenoriaeth lle'r oedd modd inni wneud y cyfraniad mwyaf at ffyniant a lles hirdymor. Maen nhw'n adlewyrchu'r adegau hynny ym mywydau pobl pan allai fod angen cymorth arnyn nhw fwyaf a phan all y cymorth iawn gael effaith ddramatig ar eu bywydau. Y rhain yw: y blynyddoedd cynnar, tai, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl a chyflogadwyedd a sgiliau.
Wrth inni asesu ein cynnydd, roedd yn amlwg ein bod yn cyflawni'r camau gweithredu i helpu i leihau allyriadau. Fodd bynnag, os ydym yn dymuno cyflawni ein dyheadau, yna mae angen inni ganolbwyntio'n fwy ar hynny ar draws y Llywodraeth gyfan. Mae'r manteision o leihau allyriadau yn enfawr ac yn cyfrannu at lawer o'n blaenoriaethau, megis gwella iechyd a lles ac, wrth gwrs, agor cyfleoedd economaidd newydd. Ac felly, rydym wedi penderfynu gwneud datgarboneiddio yn chweched maes blaenoriaeth.
Dirprwy Lywydd, rydym wedi ymrwymo i gyflawni gwelliannau gwirioneddol i bobl Cymru nawr, ond hefyd drwy osod y sylfeini ar gyfer y dyfodol. Cyhoeddais adroddiad blynyddol ddydd Mawrth diwethaf yn nodi'r cynnydd a wnaed wrth gyflawni ymrwymiadau tuag at ein hamcanion hirdymor. Rydym wedi cyflawni dau ymrwymiad mawr, er enghraifft, yn gyfan gwbl. Yn gyntaf oll, y gronfa triniaethau newydd gwerth £80 miliwn, sy'n sicrhau y gall pawb yng Nghymru gael yr un mynediad cyflym i gyffuriau a thriniaethau newydd. A hefyd, ein cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr, sydd wedi cyflwyno toriadau mewn trethi i fusnesau bach ledled Cymru.
Ac rydym ar y trywydd iawn gyda'n prif ymrwymiadau eraill: mae 16,000 o bobl wedi dechrau yn ein rhaglen brentisiaeth flaenllaw i bob oedran yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf yn unig. Rydym eisoes wedi cynyddu'r swm o arian y gall pobl ei gadw cyn bod rhaid ariannu cost lawn eu gofal preswyl i £40,000. Rydym wedi cynyddu nifer y gweithleoedd lle gall rhieni sy'n gweithio gael 30 awr o ofal plant am ddim i'w plant tair a phedair blwydd oed, gyda mwy na hanner yr awdurdodau lleol yn rhan o'n cynlluniau peilot erbyn hyn. A bydd Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru), sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd, yn ein cynorthwyo i gyflawni ein cynnig gofal plant. Rydym wedi parhau hefyd i flaenoriaethu gwariant ar ysgolion, ac rydym ar y trywydd iawn i fuddsoddi £100 miliwn ar wella perfformiad ein hysgolion, ochr yn ochr â newidiadau arfaethedig i'r cwricwlwm.
Dirprwy Lywydd, eleni, cyflwynwyd contract economaidd newydd, sy'n elfen hanfodol o'n cynlluniau ar gyfer Cymru ffyniannus a diogel. Rydym yn symleiddio'r cyllid ar gyfer busnesau ac yn buddsoddi yn eu dyfodol. Yn gyfnewid am hyn, disgwyliwn iddyn nhw chwarae eu rhan lawn yn ehangu ffyniant, yn mabwysiadu'r arferion cyflogaeth gorau, yn buddsoddi yn eu staff ac yn cynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy, oherwydd rydym eisiau cefnogi swyddi o ansawdd uchel sy'n talu'n dda. Mae'r cynllun gweithredu cyflogadwyedd yn nodi, er enghraifft, sut y byddwn yn buddsoddi mewn pobl, sut y byddwn yn helpu pobl i gael swyddi, a sut y byddwn yn rhoi iddynt y sgiliau i ddatblygu. Rydym yn diwygio sut y byddwn yn ariannu addysg ôl-16 i fod yn fwy ymatebol i anghenion yr economi ac adlewyrchu blaenoriaethau rhanbarthol.
Rydym wedi ymrwymo i wasanaeth iechyd modern a chynaliadwy, 70 mlynedd ar ôl ei sefydlu. Gwyddom fod anghenion a disgwyliadau pobl o'r GIG wedi newid. Yn 'Cymru Iachach', nodwyd sut y byddwn ni bellach yn integreiddio gofal cymdeithasol ac iechyd, gan roi dull ataliol wrth wraidd ein gwasanaethau, ac rydym yn cefnogi hyn gyda chronfa trawsnewid £1 miliwn. Rydym yn buddsoddi mewn mesurau i helpu pobl i fod yn iach ac yn egnïol drwy ein cronfa iach ac egnïol gwerth £5 miliwn. Ac mae ein rhaglen aer glân Cymru yn adlewyrchu dull traws-lywodraethol, ochr yn ochr â chronfa ansawdd aer newydd gwerth £20 miliwn, a fydd yn helpu i wella ansawdd aer.
Llywydd, rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau i ysgolion ac mewn ystâd addysg fodern drwy ein rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain sy'n werth £1.4 biliwn. Eleni, cwblhawyd y canfed prosiect. Mae buddsoddi mewn adeiladau ysgol yn mynd law yn llaw â 'n buddsoddiad yn y proffesiwn addysgu, drwy'r Academi Genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth addysgol a'n newidiadau i'r cwricwlwm. Drwy weithio law yn llaw ag athrawon, rydym yn datblygu system addysg a fydd yn diwallu anghenion y genedl. Dylai'r gallu i gael mynediad i ddysgu gydol oes fod ar gael i bawb, ac rydym yn buddsoddi i gau'r bwlch mewn cyrhaeddiad drwy becyn amddifadedd disgyblion ehangach—y pecyn mwyaf hael yn y DU—ac mae hynny wedi helpu i ddileu rhwystrau ariannol, ac mae'n rhoi cymorth i fyfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedig, gan gyflwyno cyfleoedd newydd.
Rydym yn cysylltu cymunedau â'i gilydd, yn buddsoddi mewn prosiectau seilwaith ar hyd a lled Cymru. Eleni dyfarnodd Trafnidiaeth Cymru gontract gwerth £5 biliwn ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau. Mae hyn wedi ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau rheilffyrdd a pharatoi'r ffordd ar gyfer metro de Cymru. A chwblhawyd y prosiect Cyflymu Cymru, sydd wedi darparu mynediad i fand eang ffeibr cyflym i 733,000 o safleoedd ledled Cymru.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gosod y sylfeini i gyrraedd ein targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg—Cymraeg 2050. Rwy'n gobeithio bod yno i weld y targed hwnnw'n cael ei wireddu, er nad yn y swydd hon yn benodol. Rydym wedi dyfarnu £4.2 miliwn i sefydliadau ledled Cymru i hyrwyddo'r Gymraeg fel iaith fyw lewyrchus.
Llywydd, gwyddom fod llywodraeth leol gref yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus integredig o ansawdd da yn effeithiol, a chaiff Bil ar lywodraeth leol ei gyflwyno yn ystod y flwyddyn i ddarparu pecyn mawr o newidiadau, gyda'r nod o ddiwygio a chryfhau democratiaeth yr awdurdodau lleol, eu hatebolrwydd a'u perfformiad.
Dirprwy Lywydd, rydym wedi cyflawni pob un o'r gwelliannau hyn er gwaethaf degawd o doriadau a orfodwyd gan Lywodraeth y DU. Ond nid ydym wedi caniatáu i hyn fod yn nodwedd ddiffiniol o'r Llywodraeth hon. Gwyddom fod cyni yn parhau i effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru, a bod angen ein cymorth arnyn nhw yn fwy nag erioed. Rydym nawr yn paratoi ein hunain ar gyfer y realiti o ddyfodol y tu allan i'r UE. Beth bynnag fo ffurf Brexit, bydd yn amharu arnom ni, ac mae'n rhaid inni barhau i gynllunio ar gyfer pob canlyniad posibl. Mae'r gwaith hwn yn anochel yn effeithio ar ein rhaglen ddeddfwriaethol, ac ar draws busnes y Llywodraeth. Ond ein blaenoriaeth o hyd yw brwydro am y canlyniad gorau i Gymru, gan fod Cymru yn parhau i fod yn lle gwych i fuddsoddi a gweithio ynddo—neges sydd wrth wraidd y cynllun gweithredu economaidd.
Felly, Dirprwy Lywydd, mae'r Llywodraeth hon yn cyflawni ar gyfer pob rhan o Gymru, gan fwrw ymlaen gyda'n hagenda heriol. Rydym yn darparu gwelliannau sy'n cael effaith uniongyrchol ar fywydau pobl, ac yn gosod sylfeini cadarn er budd cenedlaethau'r dyfodol.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Paul Davies i gynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwyf yn falch i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Mae'r Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr yn dal o'r farn bod Llywodraeth Cymru wedi cael digon o amser i gyflwyno rhaglen sy'n gwella bywydau pobl Cymru, ond, yn anffodus, nid yw rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hir sefydlog sy'n wynebu pobl Cymru. Mae hefyd yn destun pryder mawr fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud mwy i gefnogi ymgyrchoedd deddfwriaethol o'r tu allan i'w charfan ei hun yn y Cynulliad hwn. Yn wir, fe wn i o'm profiad personol fy hun pa mor llwythol ac anodd y gall hi fod i gael cefnogaeth ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol, hyd yn oed pan allai'r ddeddfwriaeth honno wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru. Felly, rwyf yn gobeithio, wrth ymateb i'r ddadl hon, y bydd y Prif Weinidog yn myfyrio ar ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at gynigion deddfwriaethol, a pham, yn y Cynulliad hwn yn arbennig y mae'r Llywodraeth wedi bod yn amharod i gefnogi galwadau o'r tu allan i'w Llywodraeth ei hun.
Nawr, mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn glir fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth i osod dyletswydd o ansawdd ar gyfer y GIG yng Nghymru, a dyletswydd gonestrwydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Yn wir, mae'r digwyddiadau parhaus ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dangos bod atebolrwydd yn ddifrifol o wael yn ein gwasanaeth iechyd. Ac mae'r cyhoeddiad diweddar i israddio ysbytai yn y gorllewin heb warantu arian ar gyfer ysbyty yn dangos yn benodol y diffyg tryloywder ac atebolrwydd mewn rhai byrddau iechyd, ac mae angen mynd i'r afael â hyn ar fyrder. Mae'n gwbl hanfodol bod unrhyw ddeddfwriaeth a gyflwynir yn cryfhau llais y claf ar gyfer y dyfodol. Felly, efallai, wrth ymateb i'r ddadl hon, y gallai'r Prif Weinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am yr amserlenni y mae ei Lywodraeth yn eu hystyried ar hyn o bryd o ran darparu'r ddeddfwriaeth hon, a sut y bydd y ddeddfwriaeth hon yn effeithio ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan fyrddau iechyd yn ddiweddar sydd yn amlwg wedi mynd yn erbyn dymuniadau'r bobl y maen nhw mewn gwirionedd yn eu cynrychioli.
Nawr, mae adroddiad blynyddol 'Ffyniant i Bawb' yn dangos y bydd Bil Llywodraeth Leol yn cael ei gyflwyno a fydd yn cynnwys diwygio trefniadau etholiadol awdurdodau lleol a newidiadau i drefniadau llywodraethu a pherfformiad ar gyfer Llywodraeth Leol, ymhlith cynigion eraill. Gwnaeth Llywodraeth Cymru hi'n glir mai'r mater o rymuso cynghorau lleol sydd wrth wraidd y Bil hwn. Ac mae e'n gwybod beth yw barn yr Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr, sef nad yw creu awdurdodau mwy o faint yn golygu y byddan nhw yn awdurdodau gwell. O gofio bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau y bydd yn datblygu atebion ar y cyd ag awdurdodau lleol, rwyf yn gobeithio y gallwn ni erbyn hyn anghofio'r strwythur anferthol sy'n cael ei fygwth bob ychydig o flynyddoedd.
Nawr, mae'r ddogfen 'Ffyniant i Bawb' yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi 'cyflawni gwelliannau parhaus o ran cyrhaeddiad addysgol', sydd yn fy marn i yn gwbl groes i'r canlyniadau A* i C TGAU diweddaraf yng Nghymru, sydd fel y gwyddom, yr isaf ers 2005. Mae Estyn wedi nodi nad yw bylchau cyrhaeddiad addysgol wedi lleihau ar gyfer disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim, ac rydym hefyd yn gwybod bod Estyn wedi canfod, mewn traean o ysgolion cynradd a thair o bob pum ysgol uwchradd, bod diffygion yn y modd y maen nhw'n sicrhau bod disgyblion yn defnyddio ac yn datblygu sgiliau rhifedd. Felly, efallai y gallai'r Prif Weinidog ddweud wrthym ymhle y mae gwelliannau cyson wedi digwydd mewn cyrhaeddiad addysgol, oherwydd mae'n ymddangos nad yw hyn yn wir.
Dirprwy Lywydd, ceir hefyd ddatgysylltiad sylweddol rhwng amcanion 'Ffyniant i bawb', rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, a'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20. Mae'r syniad o ddarparu mwy o integreiddio, mwy o wasanaethau ataliol, a darparu gwasanaethau cyhoeddus addas ar gyfer y dyfodol, yn cael ei danseilio'n sylweddol gan doriadau pellach i wariant awdurdodau lleol, toriadau mewn termau real i gyllidebau cyfalaf ym maes iechyd, a mwy o gyfuno llinellau cyllideb allweddol, sy'n atal tryloywder mewn gwariant hyd yn oed ymhellach. Yn anffodus, nid ydym yn nes at ddeall sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â diffyg cywirdeb a dibynadwyedd y costau a amcangyfrifir ac a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn yr asesiadau o effaith rheoleiddiol sy'n dod gyda'r ddeddfwriaeth. Felly, unwaith eto, byddai mwy o ganllawiau ynghylch y mater hwn yn cael eu croesawu.
Mae hefyd yn bwysig bod Llywodraeth Cymru yn canfod yn union sut yr ariennir unrhyw gostau a nodwyd yn yr asesiadau o effaith rheoleiddiol, ac efallai y dylai Llywodraeth Cymru gynnig mwy o eglurder i bwyllgorau wrth i ddeddfwriaeth fynd drwy'r broses ddeddfwriaethol. Bob blwyddyn, mae'r Cynulliad yn pasio mwy a mwy o ddeddfwriaeth, ac rwy'n credu erbyn hyn fod angen inni efallai fod yn fwy ystyriol o ddeddfwriaeth sydd wedi'i phasio o'r blaen, gan ganolbwyntio'n ddigonol ar waith craffu ôl-ddeddfu. Ac fe fyddai'n ddiddorol clywed barn gyffredinol y Prif Weinidog ar sut y cafodd deddfwriaeth o'r fan hon ei hailystyried a'i rhoi drwy'r broses graffu yn y blynyddoedd dilynol er mwyn sicrhau ei heffeithiolrwydd, ac a yw e'n credu bod lle i wella yn y maes penodol hwn. Prin yw'r ddealltwriaeth, manylion a chyfarwyddyd yn nogfen 'Ffyniant i Bawb' y Llywodraeth ynghylch sut y bydd unrhyw un o'i hamcanion yn cael eu gyrru ymlaen, ac y mae hefyd yn hanfodol bod unrhyw ddeddfwriaeth a ddaw o ganlyniad i'r ddogfen 'Ffyniant i Bawb' yn ystyrlon, yn cael effaith wirioneddol ac yn cyflawni gwerth am arian i drethdalwyr Cymru. Ar yr ochr hon i'r Siambr, fe fyddwn ni'n parhau i ymgysylltu mewn modd adeiladol gyda'r broses ddeddfwriaethol a'r broses ôl-ddeddfu pryd y gallwn ni weld gwelliannau gwirioneddol i bobl Cymru. Diolch.
Mae 'ffyniant' yn air mawr, mae o'n air pwysig. Rydym ni i gyd eisiau Cymru sy'n ffynnu yn economaidd, yn gymdeithasol. Mi allwn ni sôn am ffyniant mewn gwasanaethau cyhoeddus—addysg ac iechyd hefyd. Rydw i eisiau Cymru sy'n ffynnu fel cenedl go iawn i gymryd ei lle ymhlith cenhedloedd y byd ac, yn sicr, allwn ni ddim gymryd y gair 'ffyniant' yn ysgafn na'i danchwarae fo. Ond, mae gen i ofn, nad ydw i'n gweld bod rhaglen 'Ffyniant i Bawb' Llywodraeth Cymru'n derbyn maint yr heriau sy'n wynebu Cymru. Nid ydy hi yn sicr yn dangos yr uchelgais sydd ei angen i ymateb i'r heriau yna.
Ac mae cynnydd—well inni fod yn onest yn fan hyn—wedi bod yn gyfyngedig yn y bron i 20 mlynedd ers sefydlu datganoli. Gallaf i roi faint a fynnir o enghreifftiau: mae GVA Cymru i lawr yn is nag yr oedd o ar ddechrau datganoli; rydym ni'n colli ein pobl ifanc ni, yn colli ein sgiliau a gwybodaeth. Yn haf 2017, mi ddangosodd adroddiad gan y Resolution Foundation bod Cymru wedi gweld colled net o dros 20,000 o raddedigion rhwng 2013 a 2016. Ar yr amgylchedd, ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged i leihau allyriadau 40 y cant erbyn 2020. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod allyriadau yng Nghymru, dair blynedd yn ôl, dim ond rhyw 19 y cant yn llai nag yr oedden nhw yn 1990. Dros yr un cyfnod, mae allyriadau ar draws y Deyrnas Unedig wedi'u lleihau 27 y cant.
Os edrychwn ni ar ddatganiad deddfwriaethol y Prif Weinidog yng Ngorffennaf y llynedd, mae'n fwy nodedig rydw i'n meddwl am yr hyn sydd ar goll, yn hytrach na'r hyn oedd yn cael ei gynnwys: dim Deddf aer lân i Gymru i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd cyhoeddus o lygredd awyr sy'n achosi 2,000 o farwolaethau cynnar bob blwyddyn yng Nghymru; dim deddfwriaeth i sefydlu cwmni ynni a allai wthio prosiectau adnewyddol newydd a hyd yn oed gwthio morlyn llanw Bae Abertawe.
Mi oedd y rhaglen ddeddfwriaethol yn cyfeirio at waddol y Prif Weinidog, yn cyfeirio at ddeddfwriaeth fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, ond beth ydy pwrpas deddfwriaeth oni bai ei bod yn arwain at newid yn y ffordd mae pethau'n cael eu gwneud ac at wella bywydau pobl? Bron i bum mlynedd ers pasio'r Ddeddf teithio llesol, er enghraifft, mae cyfraddau teithio llesol yn dal i fod yr un fath ac mae llai o blant yn cerdded neu'n beicio i'r ysgol. Mae gwariant o ryw £10 y pen y flwyddyn yn llai o lawer na'r £17 i £20 y pen oedd yn cael ei argymell gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.
Lle mae'r cynnydd yn nhermau mynd i'r afael â newid hinsawdd, llygredd awyr a gwastraff plastig? Yn hytrach na disgwyl i Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig gymryd y mater yma o ddifrif, mi fyddai Plaid Cymru yn cymryd yr awenau ein hunain ac yn cyflwyno Deddf awyr lân i Gymru. Mi fyddem ni'n anelu at ddileu gwerthiant ceir diesel a phetrol yn unig erbyn 2030, fel y mae nifer o wledydd yn ei wneud, ac sy'n darged mwy uchelgeisiol na'r hyn sydd wedi cael ei osod gan Lywodraeth Prydain. Mi fyddem ni'n cyflwyno cynllun dychwelyd poteli ac ardoll blastig defnydd unigol i fynd i'r afael â'r pla o lygredd plastig. Yng ngeiriau'r Marine Conservation Society:
os na fyddwn yn newid pethau, erbyn 2050 gallem fod â mwy o blastig na physgod (yn ôl pwysau) yn y môr'.
Yn nhermau gwella canlyniadau addysgol a rhoi'r dechrau gorau i fywyd i blant o bob cefndir, mi fydd cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn gwaethygu'r bwlch parodrwydd am ysgol rhwng plant o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig a'u cyfoedion cyfoethocach. Mi fydd teuluoedd sy'n ennill hyd at £200,000 y flwyddyn yn elwa o ofal plant am ddim ar gyfer pob plentyn rhwng tair a phedair oed, ond ni fydd y plant sydd efo rhieni sy'n chwilio am waith neu mewn addysg neu hyfforddiant yn elwa o'r cynnig hwn. Mi fyddai cynnig cynhwysol, fel y mae Plaid Cymru wedi'i amlinellu, yn galluogi rhieni i ddychwelyd i'r gweithlu, yn ogystal â rhoi'r dechrau gorau posibl i bob plentyn.
Mi wnaf i orffen efo Brexit a'r effaith ar amaeth. Rydym ni'n dal i ddisgwyl i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn ein hamgylchedd, ffermydd a physgodfeydd yn hytrach na dewis rhoi pwerau nôl i Lundain. Ac, yn hytrach na dilyn llwybr Michael Gove, mi fyddai Llywodraeth Plaid Cymru yn cynnal taliad incwm sylfaenol i ffermwyr am ein bod ni'n credu bod angen y taliad uniongyrchol yna ar ffermwyr yng Nghymru. Mae'n rhaid inni sylweddoli anghenion ffermwyr yng Nghymru ac nid edrych ar yr hyn sydd yn digwydd dros y ffin. Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru fel y maen nhw wedi'u nodi yn 'Brexit a'n Tir' yn cynnwys diddymu taliadau, wrth gwrs, yn raddol o 2020. Fel y mae FUW yn ei ddweud, mae hynny'n golygu'r newid mwyaf ers yr ail ryfel byd yn amaethyddiaeth yng Nghymru.
I gloi, Llywydd, mae sicrhau ffyniant i Gymru yn rhywbeth y dylai fod yn gyrru pob un ohonom ni. Mae gen i ofn mai dal i ddisgwyl yr ydym ni i'r Llywodraeth Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yma ddelifro rhaglen a all gynnig gwir obaith i'n cymunedau ni.
Julie Morgan.
Diolch, Dirprwy Lywydd, am alw arnaf i siarad yn y ddadl hynod o bwysig hon, sy'n edrych ar sut y mae hi arnom ni yng Nghymru ac sy'n edrych ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Hoffwn longyfarch y Llywodraeth ar y cynnydd a wnaed. Hoffwn ganolbwyntio ar un neu ddau o faterion.
Tai yw un o'r materion mwyaf yr wyf i'n ymdrin ag ef yn fy swyddfa etholaeth, ac rwyf yn sicr bod hynny'n wir yn achos llawer o Aelodau'r Cynulliad hwn. Mae bod â chartref diogel yn un o'r blociau adeiladu sylfaenol mewn cymdeithas ac fe wn i fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o waith yn y maes hwn. Rwy'n croesawu'n arbennig y ffaith ein bod wedi diddymu'r hawl i brynu eleni—ym mis Ionawr eleni—a fydd yn cadw'r stoc o dai cyngor, sydd wedi prinhau'n sylweddol, i'r rhai sydd eu hangen fwyaf. Rwy'n credu bod hynny'n gam blaengar a beiddgar iawn ar ran y Llywodraeth, ac rwy'n gobeithio y bydd mwy o'r stoc sy'n weddill yn aros yn nwylo'r awdurdodau lleol o ganlyniad.
Rwy'n croesawu hefyd yr ymdrechion i atal digartrefedd, ac rwy'n sylwi bod yr adroddiad blynyddol yn dweud bod mwy na 16,000 o deuluoedd yng Nghymru wedi osgoi digartrefedd yn llwyddiannus. Fe wn i fod y ddeddfwriaeth hon yn destun edmygedd mawr mewn rhannau eraill o'r DU a'i bod wedi'i mabwysiadu mewn rhai ohonyn nhw, oherwydd bod rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i atal pobl rhag mynd yn ddigartref yn amlwg yn allweddol—i weithredu cyn iddi fynd yn rhy hwyr.
Un o achosion digartrefedd yw ansicrwydd deiliadaeth ymhlith tenantiaid yn y sector rhentu preifat, a gwn fod y Llywodraeth yn trafod cael gwared ar adran 21, y cymal troi allan heb fai, fel y'i gelwir. Mae'n bwysig iawn bod y Llywodraeth yn bwrw ymlaen â hyn oherwydd bod llety rhent, sef lle yr oeddem ar un adeg yn disgwyl i fyfyrwyr ac efallai pobl ifanc yn eu swyddi cyntaf fyw ynddo, ond sydd erbyn hyn, mewn llawer o achosion yn lle ar gyfer teuluoedd â phlant ac ar gyfer pobl anabl a phobl hŷn i fyw ynddo. Yn wir, ceir 460,000 o bobl yng Nghymru yn byw yn y sector rhentu preifat, ac yn amlwg rwy'n credu bod yn rhaid i ni fel Llywodraeth wneud yn sicr na ddylen nhw ofni cael eu troi allan heb reswm da. Ceir tystiolaeth hefyd bod adran 21 yn cael effaith anghymesur ar fenywod, sy'n fwy tebygol o fod â phlant dibynnol ac a fydd yn dioddef amodau tai gwael mewn rhai achosion, ac yn ofni cael eu troi allan mewn modd dialgar hefyd os ydynt yn cwyno. Gwn fod y Llywodraeth wedi mynd i'r afael â'r mater penodol hwnnw.
Felly, rwyf yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn bwrw ymlaen i gael gwared ar achosion o droi allan heb fai, oherwydd fel y mae pethau ar hyn o bryd, gall teuluoedd gael eu troi allan ar ôl chwe mis, gan amharu ar fywyd y teulu a gwaith ysgol y plant o ganlyniad. Rwy'n croesawu hefyd y targed i ddarparu 20,000 o gartrefi mwy fforddiadwy dros y tymor Cynulliad hwn, ac rwyf yn falch iawn bod Cyngor Caerdydd yn adeiladu'r tai cyngor cyntaf mewn cenhedlaeth i helpu i fynd i'r afael â'r rhestr aros yng Nghaerdydd, sy'n cynnwys bron i 8,000 o bobl.
Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni sicrhau bod y tai newydd hyn yn cael eu hadeiladu mewn ffordd gynaliadwy. Daeth SPECIFIC, sydd wedi ei leoli ym Mhrifysgol Abertawe,—yr wythnos diwethaf rwy'n credu—i'r Cynulliad i ddweud wrthym am y ddarpariaeth o adeiladau ynni gweithredol, sy'n defnyddio ynni solar a gaiff ei integreiddio i'r adeilad a thechnolegau storio i ddarparu gwres, pŵer a thrafnidiaeth yn y fan lle mae'n cael ei defnyddio. Felly, mae gennym ni bellach y dechnoleg i godi adeiladau effeithlon o ran ynni, ac rwy'n credu y dylai pob adeilad a godir yng Nghymru gan ddefnyddio cyllid cyhoeddus fod yn adeilad ynni gweithredol. Felly, mae'n arwydd o gynnydd aruthrol fod y technolegau hyn wedi'u datblygu yma, ac rwy'n credu y dylem ni sicrhau y dylai pob adeilad cyhoeddus fod yn adeilad ynni gweithredol.
Yn olaf, fe hoffwn i droi at hawliau plant, ac rwyf yn croesawu'r cynnydd o ran hawliau plant a wnaed yng Nghymru. Rwyf yn credu bod Cymru wedi arwain y ffordd mewn gwirionedd o ran hawliau plant, drwy benodi'r Comisiynydd Plant cyntaf yn y DU, sicrhau bod cynghorau ysgol yn yr ysgol, pasio mesur hawliau plant a phobl ifanc, sy'n golygu ein bod yn ystyried plant ymhob deddfwriaeth yr ydym yn ei chynllunio. A hoffwn hefyd groesawu'r cynnydd y bwriedir ei wneud o ran y ddeddfwriaeth i wahardd cosbi plant yn gorfforol. Fel y gŵyr y Prif Weinidog, y mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi ymgyrchu amdano ers blynyddoedd lawer, ond rwyf yn falch iawn bod y Cynulliad hwn, y Llywodraeth hon, yn awr yn bwriadu, mewn gwirionedd, i hyn ddwyn ffrwyth.
Wel, fe fyddai'n syndod pe na byddai gan unrhyw Lywodraeth rywbeth i ymffrostio yn ei gylch ar ôl 12 mlynedd o weithgarwch, ac rwyf yn cydnabod y bu cynnydd mewn nifer o feysydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn amlwg, yr ydym i gyd yn croesawu pethau fel y gronfa driniaeth newydd, y toriadau mewn treth ar gyfer busnesau bach ac ati, a nodir yn y rhagair i'r ddogfen hon, sydd â llun hyfryd o Brif Weinidog eilliedig.
Ac yn sicr fe fyddai'n anfoesgar peidio â chanmol arweinydd y tŷ am ei hymdrechion o ran ymestyn band eang ac ati yng Nghymru. Beth bynnag sydd ar ôl i'w wneud, gwnaed cynnydd sylweddol dros y 12 mis diwethaf.
Ond y tu hwnt i hynny, dywedais y llynedd bod 'Ffyniant i Bawb' yn fy atgoffa i o emyn yr oeddwn yn arfer ei chanu fel bachgen yn yr ysgol Sul, 'Tell me the old, old, story', ond eleni rwy'n credu ein bod wedi symud ymlaen, ac erbyn hyn 'There is a green hill far away' yw hi. Dywedodd Adam Price, y llynedd, yn ei araith ar 'Ffyniant i Bawb' ei fod yn 'Symud Cymru Ymlaen' ar steroidau—roedd wedi cynyddu o 15 o dudalennau i 27. Ac, yn wir, mae dogfen eleni—mae'r ddogfen wedi cynyddu i 32 o dudalennau. Felly, o ystyried yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth am fethiant y Llywodraeth i gyrraedd ei tharged ailgylchu, y mae'n debyg pan ddaw hi'n amser rhwygo'r dogfennau y bydd hyn yn ei helpu i gyrraedd y nod hwnnw.
Ond y gwir am gefndir y ddogfen hon, wrth gwrs, yw bod Cymru'n parhau ar waelod y domen yn nhablau incwm rhanbarthau Lloegr a gwledydd y Deyrnas Unedig. Er bod twf economaidd wedi bod yn well yn ystod y 12 mis diwethaf nag a fu yn y blynyddoedd diweddar, ac yr ydym yn cau'r bwlch rhyngom ni â Gogledd-ddwyrain Lloegr, sydd yn olaf ond un yn y tabl, y mae'r cynnydd yn boenus o araf. Mae'r gwerth ychwanegol gros fesul pen yng Nghymru yn aros ar £19,140 y flwyddyn, ac er i Ogledd Iwerddon fod yn is na Chymru 20 mlynedd yn ôl, bellach y mae gryn dipyn yn uwch. Felly, rydym ni wedi cael 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru ac rydym ni mewn gwirionedd wedi mynd tuag at yn ôl.
Nawr, rwyf yn cydnabod ar unwaith, wrth gwrs, er gwaethaf datganoli, bod llawer o ysgogwyr newid economaidd nad ydyn nhw o fewn pŵer a rheolaeth Llywodraeth Cymru, ac erys y rhain yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig trethi busnes, yr wyf i, yn wahanol i rai yn fy mhlaid, yn awyddus iddyn nhw gael eu datganoli i Gymru, er mwyn inni allu newid yr hinsawdd economaidd mewn ffordd arwyddocaol a fydd, os y'i defnyddir gyda dychymyg, yn denu mwy o ddiwydiannau i Gymru, gan ei gwneud yn haws i wneud busnes yng Nghymru ac i gynhyrchu yng Nghymru.
Wrth gwrs, nid yw hynny ar gael yn llawn i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ond yn sicr nid yw'r awyrgylch o besimistiaeth a ddaw o gyfeiriad Llywodraeth Cymru yn barhaus, yn enwedig ynglŷn â Brexit, wedi ei gynllunio i ennyn hyder buddsoddwyr, er y cafwyd straeon o lwyddiant, wrth gwrs, fel Aston Martin. Rwy'n credu bod penderfyniad Qatar Airways i ddod i Gaerdydd o bosib yn mynd i fod yn hwb enfawr i Gymru, ac rwyf yn cydnabod cyfraniad y Prif Weinidog yn hyn o beth hefyd.
Ond, serch hynny, yn gyffredinol, rwy'n credu mai stori o fethiant a geir yn hytrach na llwyddiant. Os edrychwn ni ar fynegai entrepreneuriaid Barclays, mae gan Gymru'r nifer isaf ond un o gwmnïau twf uchel yn y DU sef 77. Mae nifer y cwmnïau a gefnogir gan ecwiti preifat yng Nghymru wedi cynyddu o 40 yn ôl ymchwil y llynedd i 50, ond cynnydd bach yw hyn mewn gwirionedd. Mae nifer y cwmnïau sy'n cael arian cyfalaf menter wedi cynyddu o 23 y llynedd i 32, ond nid yw gwerth y buddsoddiad hwn wedi cynyddu—mae'n sefydlog ar £9 miliwn yn unig flwyddyn ar ôl blwyddyn. Felly, mae llawer mwy i'w wneud eto. Felly, gosod y cywair y mae'r Llywodraeth, yn fwy nag unrhyw beth arall ar hyn o bryd, a chredaf nad yw'r cywair a osodir yn mynd i ddenu busnes i Gymru.
Hoffwn ddweud un peth arall yn yr amser byr sydd ar gael i mi. Mae’r Llywodraeth wedi ychwanegu datgarboneiddio at ei rhestr o amcanion dewisol, ond y mae'r hyn sy'n digwydd yn Tsieina ac India i'r gwrthwyneb. Maen nhw'n rhoi datblygiad o flaen datgarboneiddio ac nid ydyn nhw'n derbyn unrhyw derfynau ar allyriadau carbon oherwydd eu bod nhw'n rhoi twf economaidd ar frig y tabl. Cymru yw'r berthynas dlawd o fewn y Deyrnas Unedig. Fe ddylem ni, rwy'n credu fod â'r un agwedd tuag at hyn â'r gwledydd hynny sydd, mae'n rhaid cyfaddef, ymhell i lawr y raddfa incwm mewn termau byd-eang, ond sydd wedi gwneud cynnydd aruthrol yn y blynyddoedd diwethaf o ran gwella bywydau materol eu pobl.
Mae Cymru yn gyfrifol am 0.06 y cant o allyriadau carbon deuocsid. Nid yw carbon deuocsid yn llygrwr. Roedd Rhun ap Iorwerth yn sôn am Ddeddf i wella ansawdd aer. Rwyf yn llwyr o blaid hynny, ond nid yw carbon deuocsid yn llygrwr megis sylffwr deuocsid neu nitrogen deuocsid. Felly, rwy'n credu mai'r hyn sydd angen inni ei wneud, yn hytrach na phentyrru costau diangen ar ddiwydiant, ac allforio swyddi ac allforio diwydiant o ganlyniad, yw gosod twf economaidd ar frig ein hagenda—[Torri ar draws.] Rwyf wedi darllen adroddiad Stern, ond ni allwn drafod hynny nawr. Propaganda gwleidyddol yw adroddiad Stern gan rywun nad yw'n wyddonydd hinsawdd. Felly, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw rhoi'r hyn sy'n bwysig i bobl gyffredin yn gyntaf, ac yng Nghymru, ar waelod y raddfa incwm, y mae angen inni wella eu safon byw.
Roeddwn i eisiau cymryd rhan yn y ddadl hon er mwyn ystyried rhai o'r heriau sydd o'n blaenau. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn gresynu at dôn hunanglodforus braidd y Prif Weinidog yn ei araith agoriadol ac nid wyf yn credu i'w araith adlewyrchu llawer o'r heriau sy'n dal o'n blaenau. Gwyddom, er enghraifft, fod perfformiad ein system addysg yn llusgo y tu ôl i rannau eraill o'r DU. Mae hynny, wrth gwrs, yn rhannol oherwydd y gwahaniaeth sylweddol yn y gwariant fesul disgybl rhwng Cymru a Lloegr, ac rydym wedi trafod a dadlau am hynny droeon. Does dim ots pa sefydliad yr ydych chi'n edrych arno, mae pawb yn dweud bod yna fwlch cyllido a bod y deilliannau'n waeth mewn gwirionedd.
Hefyd, wrth gwrs, nid oes gennym ni bremiwm disgybl yn y gwasanaeth ar gyfer y plant hynny y mae eu rhieni yn y lluoedd arfog yma yng Nghymru, sydd ganddyn nhw mewn rhannau eraill o'r DU, ac, o ganlyniad i hynny, mae yna heriau y mae'n rhaid i blant sydd â rhieni yn y lluoedd arfog eu hwynebu o ganlyniad i'r anhawster, weithiau, o gael eu lleoli mewn gwahanol leoedd yn y DU gyda'u rhieni, sy'n cael effaith, ac ni allwn oresgyn hynny.
Nawr, bu rhywfaint o gynnydd. Mae'r blaid hon wedi croesawu elfennau o Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol, a hoffwn dalu teyrnged, wrth gwrs, fel y gwnaethom yn y gorffennol, i waith y cyn-Ysgrifennydd Cabinet Carl Sargeant am ei waith yn y maes hwnnw. Hefyd, wrth gwrs, croesawn y Bil cyllido gofal plant sydd ar hyn o bryd yn gwneud ei ffordd drwy'r Cynulliad Cenedlaethol. Nid yw hynny'n golygu na fyddwn yn cyflwyno rhai gwelliannau er mwyn ei wella, ond rydym yn croesawu'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni o ran annog pobl yn ôl i weithio drwy ddarparu gofal plant rhad ac am ddim.
Ond yr hyn y bydd y blaid hon bob amser yn ei wrthwynebu yw gwaharddiad ar smacio, gwaharddiad ar smacio nad yw'n boblogaidd yn y wlad yn gyffredinol, nad oes neb wedi bod yn galw ar garreg y drws yn gofyn inni ei roi ar waith o ran deddfwriaeth. Mae gennym ni lawer o bethau mwy i'w gwneud o ran yr heriau sydd gan ein gwlad i'w hwynebu. Felly, rwyf yn eich annog, Prif Weinidog, i ystyried y dystiolaeth gynyddol sydd ar gael am wrthwynebiad i'r math hwn o ymagwedd yma yng Nghymru.
Awgrymodd arolwg ComRes yn ôl yn 2017 nad yw 76 y cant o'r bobl yng Nghymru yn credu y dylai smacio plant gan rieni fod yn drosedd. Eto, dyna'n union, yn ymarferol, fydd yn digwydd o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth yr ydych chi yn ei chyflwyno. Roedd saith deg y cant o'r rhai hynny a holwyd yn pryderu y gallai gwahardd smacio lethu'r heddlu a gweithwyr cymdeithasol gydag achosion cymharol ddibwys, a fyddai'n golygu y bydden nhw'n cael trafferth i atal pobl sy'n cam-drin plant yn ddifrifol. Mae saith deg saith y cant o'r farn mai cyfrifoldeb rhieni a gwarcheidwaid yw penderfynu a ddylid smacio eu plant ai peidio, nid y wladwriaeth. Dywedodd chwe deg wyth y cant o'r rhai hynny a holwyd ei bod weithiau'n angenrheidiol i smacio plentyn drwg. Ac, wrth gwrs, roedd 85 y cant o oedolion ledled y wlad wedi cael eu smacio gan eu rhieni neu eu gwarcheidwaid fel modd o ddisgyblu.
Mae'r gyfraith bresennol yn gweithio. Mae'n diogelu rhag cam-drin, ac nid yw cosb resymol yn amddiffyniad a ddefnyddir yn system y llysoedd. Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron mai dim ond tri achos a adroddwyd iddynt ledled Cymru a Lloegr rhwng 2009-17, pan ddefnyddiwyd cosb resymol fel amddiffyniad, mewn gwirionedd. Roedd pob un o'r achosion hynny—y tri ohonynt—yn deillio o Loegr, nid oedd yr un ohonyn nhw yng Nghymru, ac mae hynny'n awgrymu i mi fod y system yn gymesur felly, a'i bod yn gweithio.
Nawr, cyn belled ag yr wyf i yn y cwestiwn, mae llawer o bethau mwy pwysig y dylech chi fod yn canolbwyntio arnyn nhw o ran cyfleoedd i blant a phobl ifanc, yn enwedig, cyflwr gwarthus, mae'n rhaid imi ddweud, y system addysg yng Nghymru ar ôl iddi gael ei gweithredu gan eich plaid chi am bron i 20 mlynedd. Dyna beth y mae angen ichi fynd i'r afael ag ef, nid deddfu ar rywbeth nad yw'r rhan fwyaf o rieni ddim yn dymuno i chi ddeddfu arno, ac nad yw'r rhan fwyaf o aelodau'r cyhoedd yn dymuno i chi ddeddfu arno ychwaith. Bydd yn arwain at dorcyfraith i lawer o rieni caredig, cariadus gan system, a'r system honno yn treulio'i holl amser yn canolbwyntio'i hegni ar bethau dibwys pan fo angen i'r cam-drin difrifol sy'n digwydd yn y wlad hon fod yn flaenoriaeth i weithwyr cymdeithasol, ac yn flaenoriaeth i'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Diolch. A gaf i yn awr alw ar y Prif Weinidog i ymateb i'r ddadl—Carwyn Jones?
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau?
Gwrandewais, yn gyntaf, ar yr hyn a oedd gan arweinydd yr wrthblaid i'w ddweud, ac aeth ef drwy'r materion lle'r oedd ganddo feirniadaeth ar yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud, a dyna, wrth gwrs, yw ei hawl fel arweinydd yr wrthblaid. Ond chlywais i ddim unwaith unrhyw awgrym o'r hyn y byddai gweinyddiaeth Geidwadol yn y Cynulliad yn ei wneud. Nid oes rhaglen lywodraethu amgen, nid oes un, 'Rydych chi'n gwneud hyn, ond byddem ni'n gwneud hyn'. Nid oes unrhyw awgrym o—[Torri ar draws.] Gwnaf, wrth gwrs y gwnaf i.
Fe wnaethom ni nodi rhaglen ddeddfwriaethol yn ein maniffesto cyn etholiadau diwethaf y Cynulliad, ac yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae fy nghyd-Aelod, Paul Davies, arweinydd yr wrthblaid, yn cyflwyno deddfwriaeth ar awtistiaeth y mae eich plaid chi'n ei gwrthwynebu.
Mewn gwirionedd, yn ein maniffesto roedd gennym ni ymrwymiad i gael gwared ar gosb resymol fel amddiffyniad, a bwriadwn gadw at hynny. Ond nid oes unrhyw arwydd o sut beth fyddai rhaglen lywodraethu gweinyddiaeth Geidwadol yn y Cynulliad, ac mae hynny'n siomedig.
O ran deddfwriaeth y tu allan i'r Siambr hon, nid oes unrhyw gyfundrefn lwythol ar waith—nid ydym yn ei gweld hi yn y ffordd honno—ond mae mater difrifol o ran capasiti, os wyf yn onest â chi. Mae gennym ni raglen ddeddfwriaethol drom. Mae gennym ni Brexit, a fydd yn achosi mwy o anawsterau inni o ran capasiti, a gall fod yn anodd i gynnig cymorth i Filiau o'r tu allan i raglen y Llywodraeth oherwydd y capasiti hwnnw. Mae hon yn adeg brysur, a gall fod yn anodd i wneud hynny. Felly, nid oes unrhyw gwestiwn o gyfundrefn lwythol yn y fan yma; mae'n fater o sicrhau y gallwn ni gael ein busnes ein hunain trwyddo yn gyntaf, ac, fel Llywodraeth, rwy'n credu bod gennym ni hawl i wneud hynny, ac yna bydd yn rhaid i ni weld a oes unrhyw gapasiti dros ben, gan ystyried Brexit, i weld beth y gellir ei wneud o ran deddfwriaeth o'r tu allan i'r Llywodraeth. Felly, nid penderfyniad gwleidyddol yw hwn o reidrwydd—mae'n ymwneud yn fwy â'r hyn y credwn y gallwn ni ei wneud heb beryglu ein rhaglen ein hunain.
Pan ddaw i iechyd, wel, o ran y Bil ei hun, mae yna Bapur Gwyn y bydd yr Aelod yn gwybod sydd wedi'i gyhoeddi. Fel y bydd yn gwybod, rydym ni'n rhoi mwy o adnoddau i faes iechyd, unwaith eto, fel yr ydym wedi ei wneud flwyddyn ar ôl blwyddyn, oherwydd ein bod yn gwybod bod iechyd yn faes y bydd pobl yn ein barnu ni arno pan ddaw hi'n fater o sut yr ydym ni'n perfformio fel Llywodraeth.
Mae'n sôn am rymuso cynghorau lleol. Ei farn ef yw nad oes angen ailstrwythuro llywodraeth leol. Yn bendant, mae angen, i sicrhau bod llywodraeth leol yn gweithio gyda'i gilydd oherwydd ni all ef, does bosib, awgrymu bod strwythur llywodraeth leol yng Nghymru wedi bod yn wych ers blynyddoedd. Bu gennym chwe awdurdod lleol mewn mesurau arbennig ar gyfer addysg, bu gennym un awdurdod lleol a oedd wedi chwalu'n llwyr i'r graddau y bu'n rhaid inni ei gymryd drosodd, ac roedd problemau gwirioneddol yn ei awdurdod lleol ei hun o ran y prif weithredwr bryd hynny ac o ran yr hyn yr oedd yr awdurdod yn ei gyflawni. Yr hyn yr wyf i wedi sylwi arno yw bod consortia addysg wedi gwneud gwyrthiau o ran sicrhau gwell canlyniadau mewn ysgolion, o ran darparu cyrsiau ar draws rhanbarthau, a dyna un o'r meysydd y mae'n rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd arno yn y dyfodol.
Mae cynllunio rhanbarthol yn un arall. Mae fy nghyd-Aelod yn y fan yma, Hefin David, wedi gwneud y pwynt hwn lawer, lawer gwaith. Ni allwch, os ydych chi'n awdurdod cynllunio, gynllunio dim ond ar gyfer eich ardal eich hun; mae'n rhaid i chi weithio gydag awdurdodau lleol eraill er mwyn sicrhau bod yna gynllun rhanbarthol priodol i ymdrin â'r angen am dai.
Ac, wrth gwrs, rydym yn gwybod ein bod wedi darparu mwy o gefnogaeth ar gyfer llywodraeth leol na'r hyn sy'n wir yn Lloegr; nid yw hynny'n golygu bod ganddyn nhw fwy o arian—rydym ni'n gwybod y bu toriadau mewn llywodraeth leol—ond mae wedi bod yn waeth o lawer yn Lloegr, gyda sôn hyd yn oed yn awr y bydd y grant cymorth refeniw yn diflannu yn Lloegr. Mae hynny'n rysáit i ardaloedd cyfoethog fynd yn gyfoethocach ac i ardaloedd tlawd fynd yn dlotach. Felly, byddwn yn gweithio gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol i'w helpu drwy'r cyfnod anodd y maen nhw wedi ei gael—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny—ac mae adegau anodd, yn sicr, o'u blaenau.
O ran canlyniadau TGAU, byddwn yn eich atgoffa ein bod ni eleni wedi cyflwyno proses llymach a mwy trylwyr o ran TGAU eleni, gan wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn rhoi cynnig ar yr arholiad ar yr adeg iawn iddyn nhw, nid yr adeg iawn ar gyfer yr ysgol. Gwnaethom yn siŵr, er enghraifft, bod mwy a mwy o ddisgyblion yn sefyll TGAU gwyddoniaeth ddwbl yn hytrach na'r BTEC, ac y byddai hyn i gyd, yn ein barn ni, yn cael effaith sylweddol ar y canlyniadau, ac y byddai'n gwthio'r canlyniadau i lawr eleni, ond nid dyna ddigwyddodd. Felly, er bod camau mwy trwyadl o lawer wedi eu cyflwyno i'r system, rydym wedi gweld y canlyniadau, o leiaf, yn aros yn gyson.
O ran craffu ar ôl deddfu, mewn rhai ffyrdd mae hynny'n fater ar gyfer y Cynulliad a'i bwyllgorau, ond fel Llywodraeth, wrth gwrs, rydym ni'n deall yr angen i adolygu deddfwriaeth ac, wrth gwrs, rydym yn gweithio gyda Chomisiwn y Gyfraith i ddatblygu'r broses honno i weld sut y gallwn ni wella ymhellach cyfraith Cymru yn y dyfodol.
Ydw i dros fy amser, Dirprwy Lywydd?
Fe wnaethoch chi gymryd ymyriad. Byddaf yn hael.
Yn gyflym iawn.
Gyda Rhun ap Iorwerth, o leiaf roeddwn i'n gwybod beth oedd rhai o'r syniadau a ddaeth o Blaid Cymru ynglŷn â'r ffordd ymlaen fel roedden nhw'n ei gweld hi. Nid ydw i'n gweld bod cwmni ynni yn rhywbeth all ddatrys bob problem. Gyda'r Ddeddf ynglŷn ag aer glan, wel, mae deddfwriaeth yn un peth ond beth sy'n hollbwysig yw ein bod ni'n gweithredu a dyna beth rŷm ni'n ei wneud fel Llywodraeth.
Ynglŷn â'r cynllun gofal plant, nod y cynllun hwnnw yw helpu pobl sy'n gweithio—dyna beth yw e. Felly, roeddwn i yn y Rhondda bythefnos yn ôl ac fe ddywedodd pobl wrthyf i, 'Well, we thought it was only for people with benefits, but I'm only working 18 hours a week and I can't believe I've got free childcare.' So, mae'r bobl yna yn gweld lles mawr ynglŷn â'r cynllun hwnnw.
Yn gyflym iawn, o ran yr hyn a ddywedodd Julie Morgan, derbyniaf y pwynt am droi allan heb fai, mae hynny'n rhywbeth i edrych arno. Ar gosbi plant yn rhesymol, wel, ie, byddwn yn bwrw ymlaen â hynny. Dywedodd Darren Millar nad oedd yr amddiffyniad wedi cael ei ddefnyddio yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf. Wel, beth yw ei ddiben wedyn os nad yw wedi'i ddefnyddio erioed? Ni fydd hynny'n gwneud rhieni'n droseddwyr. Bydd, fe fydd yn creu sefyllfa lle gallai rhywun o bosibl eu cael yn euog o drosedd, ond dyna'r dewis olaf un. Gwn fod y Gweinidog yn gweithio gyda'r heddlu, gyda Gwasanaeth Erlyn y Plant ac asiantaethau eraill i wneud yn sicr nad erlyn yw'r dewis cyntaf. Nid yw'n digwydd gyda throseddau eraill o'r math hwn, felly pam ddylai fod ar gyfer hwn? Nid gwneud pobl yn droseddwyr ar yr esgus lleiaf yw'r bwriad, y bwriad yw helpu pobl ar y dechrau, ac os na ddatrysir pethau, yn y pen draw mae'r posibilrwydd o erlyniad. Yn sicr nid dyna'r ffordd y byddai'r heddlu neu Wasanaeth Erlyn y Goron, neu yn wir ni ein hunain yn ei weld.
Credaf fy mod wedi ymdrin â—. Un peth a ddywedodd Neil Hamilton am Tsieina. Nid yw pobl Tsieina'n dwp ac nid yw eu Llywodraeth ychwaith. Mae ganddyn nhw broblem wirioneddol â llygredd, a dyna pam y maen nhw'n buddsoddi cymaint mewn ynni adnewyddadwy. Maen nhw o dan bwysau gan eu pobl eu hunain oherwydd yr ansawdd aer erchyll sydd ganddyn nhw mewn rhai rhannau o Tsieina, ac maen nhw'n ymwybodol iawn o'r gwaith y mae angen iddyn nhw ei wneud er mwyn newid y ffordd y maen nhw'n gweithredu. Mae hynny'n rhywbeth y mae Tsieina yn ei ddatblygu ac maen nhw'n datblygu technoleg i'w wneud hyd yn oed fel y mae Prydain wedi mynd tuag yn ôl o ran datblygu'r dechnoleg honno. Carbon deuocsid: mae'n wenwynig, mae'n nwy tŷ gwydr, mae hynny wedi'i sefydlu. Dywed yr holl dystiolaeth helaeth hynny, ond yn anffodus y mae'n dibynnu ar un neu ddau o bobl sy'n anghytuno. Gwn o'm profiad blaenorol yn fy swydd flaenorol, fe welwch bob amser un person sy'n arbenigwr a fydd â barn wahanol i bawb arall. Mae'n rhaid ichi edrych ar holl gryfder y dystiolaeth. Mae cryfder y dystiolaeth yn glir: mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd, mae bodau dynol yn effeithio arni, ac mae'n rhywbeth y mae angen inni wneud rhywbeth amdano ar draws y byd. Mae'n ddrwg gennyf fy mod wedi rhuthro, ond mae fy amser ar ben. Maddeuwch imi, Dirprwy Lywydd.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar welliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Rhaid ichi fod ychydig yn gynt na hynny, mae arnaf ofn. [Chwerthin.] Felly byddwn yn gohirio pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.