6. Dadl: Adroddiad Blynyddol Ffyniant i Bawb a'r Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 9 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 3:56, 9 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau?

Gwrandewais, yn gyntaf, ar yr hyn a oedd gan arweinydd yr wrthblaid i'w ddweud, ac aeth ef drwy'r materion lle'r oedd ganddo feirniadaeth ar yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud, a dyna, wrth gwrs, yw ei hawl fel arweinydd yr wrthblaid. Ond chlywais i ddim unwaith unrhyw awgrym o'r hyn y byddai gweinyddiaeth Geidwadol yn y Cynulliad yn ei wneud. Nid oes rhaglen lywodraethu amgen, nid oes un, 'Rydych chi'n gwneud hyn, ond byddem ni'n gwneud hyn'. Nid oes unrhyw awgrym o—[Torri ar draws.] Gwnaf, wrth gwrs y gwnaf i.