Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 9 Hydref 2018.
Mewn gwirionedd, yn ein maniffesto roedd gennym ni ymrwymiad i gael gwared ar gosb resymol fel amddiffyniad, a bwriadwn gadw at hynny. Ond nid oes unrhyw arwydd o sut beth fyddai rhaglen lywodraethu gweinyddiaeth Geidwadol yn y Cynulliad, ac mae hynny'n siomedig.
O ran deddfwriaeth y tu allan i'r Siambr hon, nid oes unrhyw gyfundrefn lwythol ar waith—nid ydym yn ei gweld hi yn y ffordd honno—ond mae mater difrifol o ran capasiti, os wyf yn onest â chi. Mae gennym ni raglen ddeddfwriaethol drom. Mae gennym ni Brexit, a fydd yn achosi mwy o anawsterau inni o ran capasiti, a gall fod yn anodd i gynnig cymorth i Filiau o'r tu allan i raglen y Llywodraeth oherwydd y capasiti hwnnw. Mae hon yn adeg brysur, a gall fod yn anodd i wneud hynny. Felly, nid oes unrhyw gwestiwn o gyfundrefn lwythol yn y fan yma; mae'n fater o sicrhau y gallwn ni gael ein busnes ein hunain trwyddo yn gyntaf, ac, fel Llywodraeth, rwy'n credu bod gennym ni hawl i wneud hynny, ac yna bydd yn rhaid i ni weld a oes unrhyw gapasiti dros ben, gan ystyried Brexit, i weld beth y gellir ei wneud o ran deddfwriaeth o'r tu allan i'r Llywodraeth. Felly, nid penderfyniad gwleidyddol yw hwn o reidrwydd—mae'n ymwneud yn fwy â'r hyn y credwn y gallwn ni ei wneud heb beryglu ein rhaglen ein hunain.
Pan ddaw i iechyd, wel, o ran y Bil ei hun, mae yna Bapur Gwyn y bydd yr Aelod yn gwybod sydd wedi'i gyhoeddi. Fel y bydd yn gwybod, rydym ni'n rhoi mwy o adnoddau i faes iechyd, unwaith eto, fel yr ydym wedi ei wneud flwyddyn ar ôl blwyddyn, oherwydd ein bod yn gwybod bod iechyd yn faes y bydd pobl yn ein barnu ni arno pan ddaw hi'n fater o sut yr ydym ni'n perfformio fel Llywodraeth.
Mae'n sôn am rymuso cynghorau lleol. Ei farn ef yw nad oes angen ailstrwythuro llywodraeth leol. Yn bendant, mae angen, i sicrhau bod llywodraeth leol yn gweithio gyda'i gilydd oherwydd ni all ef, does bosib, awgrymu bod strwythur llywodraeth leol yng Nghymru wedi bod yn wych ers blynyddoedd. Bu gennym chwe awdurdod lleol mewn mesurau arbennig ar gyfer addysg, bu gennym un awdurdod lleol a oedd wedi chwalu'n llwyr i'r graddau y bu'n rhaid inni ei gymryd drosodd, ac roedd problemau gwirioneddol yn ei awdurdod lleol ei hun o ran y prif weithredwr bryd hynny ac o ran yr hyn yr oedd yr awdurdod yn ei gyflawni. Yr hyn yr wyf i wedi sylwi arno yw bod consortia addysg wedi gwneud gwyrthiau o ran sicrhau gwell canlyniadau mewn ysgolion, o ran darparu cyrsiau ar draws rhanbarthau, a dyna un o'r meysydd y mae'n rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd arno yn y dyfodol.
Mae cynllunio rhanbarthol yn un arall. Mae fy nghyd-Aelod yn y fan yma, Hefin David, wedi gwneud y pwynt hwn lawer, lawer gwaith. Ni allwch, os ydych chi'n awdurdod cynllunio, gynllunio dim ond ar gyfer eich ardal eich hun; mae'n rhaid i chi weithio gydag awdurdodau lleol eraill er mwyn sicrhau bod yna gynllun rhanbarthol priodol i ymdrin â'r angen am dai.
Ac, wrth gwrs, rydym yn gwybod ein bod wedi darparu mwy o gefnogaeth ar gyfer llywodraeth leol na'r hyn sy'n wir yn Lloegr; nid yw hynny'n golygu bod ganddyn nhw fwy o arian—rydym ni'n gwybod y bu toriadau mewn llywodraeth leol—ond mae wedi bod yn waeth o lawer yn Lloegr, gyda sôn hyd yn oed yn awr y bydd y grant cymorth refeniw yn diflannu yn Lloegr. Mae hynny'n rysáit i ardaloedd cyfoethog fynd yn gyfoethocach ac i ardaloedd tlawd fynd yn dlotach. Felly, byddwn yn gweithio gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol i'w helpu drwy'r cyfnod anodd y maen nhw wedi ei gael—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny—ac mae adegau anodd, yn sicr, o'u blaenau.
O ran canlyniadau TGAU, byddwn yn eich atgoffa ein bod ni eleni wedi cyflwyno proses llymach a mwy trylwyr o ran TGAU eleni, gan wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn rhoi cynnig ar yr arholiad ar yr adeg iawn iddyn nhw, nid yr adeg iawn ar gyfer yr ysgol. Gwnaethom yn siŵr, er enghraifft, bod mwy a mwy o ddisgyblion yn sefyll TGAU gwyddoniaeth ddwbl yn hytrach na'r BTEC, ac y byddai hyn i gyd, yn ein barn ni, yn cael effaith sylweddol ar y canlyniadau, ac y byddai'n gwthio'r canlyniadau i lawr eleni, ond nid dyna ddigwyddodd. Felly, er bod camau mwy trwyadl o lawer wedi eu cyflwyno i'r system, rydym wedi gweld y canlyniadau, o leiaf, yn aros yn gyson.
O ran craffu ar ôl deddfu, mewn rhai ffyrdd mae hynny'n fater ar gyfer y Cynulliad a'i bwyllgorau, ond fel Llywodraeth, wrth gwrs, rydym ni'n deall yr angen i adolygu deddfwriaeth ac, wrth gwrs, rydym yn gweithio gyda Chomisiwn y Gyfraith i ddatblygu'r broses honno i weld sut y gallwn ni wella ymhellach cyfraith Cymru yn y dyfodol.
Ydw i dros fy amser, Dirprwy Lywydd?