6. Dadl: Adroddiad Blynyddol Ffyniant i Bawb a'r Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 9 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 4:01, 9 Hydref 2018

Gyda Rhun ap Iorwerth, o leiaf roeddwn i'n gwybod beth oedd rhai o'r syniadau a ddaeth o Blaid Cymru ynglŷn â'r ffordd ymlaen fel roedden nhw'n ei gweld hi. Nid ydw i'n gweld bod cwmni ynni yn rhywbeth all ddatrys bob problem. Gyda'r Ddeddf ynglŷn ag aer glan, wel, mae deddfwriaeth yn un peth ond beth sy'n hollbwysig yw ein bod ni'n gweithredu a dyna beth rŷm ni'n ei wneud fel Llywodraeth.

Ynglŷn â'r cynllun gofal plant, nod y cynllun hwnnw yw helpu pobl sy'n gweithio—dyna beth yw e. Felly, roeddwn i yn y Rhondda bythefnos yn ôl ac fe ddywedodd pobl wrthyf i, 'Well, we thought it was only for people with benefits, but I'm only working 18 hours a week and I can't believe I've got free childcare.' So, mae'r bobl yna yn gweld lles mawr ynglŷn â'r cynllun hwnnw.