Gwariant Llywodraeth Cymru yn 2019-20 ym Mynwy

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 10 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:36, 10 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i Nick Ramsay am ei gwestiwn. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais y gyllideb ddrafft amlinellol ar gyfer 2019-20, a oedd yn nodi ei phrif flociau adeiladu. Bydd y gyllideb ddrafft fanwl yn cael ei chyhoeddi ar 23 Hydref. Bydd yn dangos buddsoddiad parhaus yn etholaeth Mynwy mewn ysgolion, mewn addysg cyfrwng Cymraeg, mewn tai ac mewn cludiant wrth inni alinio ein gwariant â’r materion sydd bwysicaf i bobl yng Nghymru.