Mercher, 10 Hydref 2018
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. Cwestiwn 1, Mark Isherwood.
1. Pa ystyriaeth a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet i wasanaethau ataliol wrth benderfynu ar y gyllideb ddrafft? OAQ52717
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wariant Llywodraeth Cymru yn 2019-20 ym Mynwy? OAQ52709
Trown yn awr at lefarwyr y pleidiau i holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ac yn gyntaf heddiw mae llefarydd Plaid Cymru, Steffan Lewis.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y bydd y gyllideb ddrafft yn helpu awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru yn sgil y pwysau ariannol sydd arnynt? OAQ52739
4. Pa effaith y mae'r gyfradd dreth trafodiadau tir o 6 y cant wedi'i chael ar refeniw treth o drafodiadau eiddo masnachol dros £1 miliwn ers mis Ebrill 2018? OAQ52724
5. Pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal i sicrhau y bydd cronfeydd strwythurol yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru ar ôl Brexit? OAQ52725
6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y rhagolygon ariannol sy'n sail i'r gyllideb ddrafft? OAQ52722
7. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhoi i gynorthwyo'r gwaith o ddileu digartrefedd wrth ddyrannu arian i'r portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52726
Eitem 2 ar yr agenda y prynhawn yma yw cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip. Daw'r cwestiwn cyntaf gan Nick Ramsay.
1. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fand eang cyflym iawn ym Mynwy? OAQ52708
2. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddatblygu 5G yng Ngogledd Cymru? OAQ52727
Trown yn awr at lefarwyr y pleidiau, ac yn gyntaf y prynhawn yma ar gyfer arweinydd y tŷ, llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
3. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith diweddaraf i gyflwyno band eang ym Mhreseli Sir Benfro? OAQ52707
4. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hyrwyddo cydweithio digidol rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat? OAQ52730
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â bwlio ar sail rhyw? OAQ52720
6. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o fand eang yn Nwyrain Casnewydd? OAQ52711
7. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi datganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig? OAQ52718
Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma: cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Y prynhawn yma bydd yr holl gwestiynau'n cael eu hateb gan y Comisiynydd, Suzy Davies. Felly, cwestiwn 1, David Melding.
1. Pa werthusiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o gyfranogiad y Cynulliad yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 ym Mae Caerdydd? OAQ52715
2. Pa ddigwyddiadau y mae'r Comisiwn wedi'u cynllunio i goffáu canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf? OAQ52740
4. Beth y mae'r Comisiwn yn ei wneud i annog pobl ifanc i ymweld â'r Cynulliad? OAQ52731
5. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ddarparu adnoddau ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru? OAQ52729
6. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am barodrwydd y Cynulliad a'i swyddfeydd ledled y wlad i ymateb i ymosodiadau terfysgol posibl? OAQ52741
Eitem 4 ar yr agenda yw cwestiynau amserol, ac ni ddaeth unrhyw gwestiynau amserol i law.
Felly, eitem 5 yw'r datganiadau 90 eiliad, a heddiw daw'r cyntaf o'r datganiadau 90 eiliad gan Jack Sargeant.
Eitem 6 ar yr agenda yw cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, ac a gaf fi alw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol?
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 7—dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil i ymgorffori datganiad y Cenhedloedd Unedig ar hawliau personau anabl yng nghyfraith Cymru, a galwaf ar Helen...
Eitem 8, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 'Meithrin Cydnerthedd—Ymchwiliad i gyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau—ni chyflwynwyd...
Symudwn at eitem 9 ar ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig y Comisiwn: Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru). Galwaf yn awr ar y Llywydd...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliant 2 yn enw Neil McEvoy. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Dyma ni, felly, yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf ar y ddadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Mesur arfaethedig y Comisiwn: Mesur Senedd Cymru ac Etholiadau...
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os yw'r Aelodau'n gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda? Felly, symudwn ymlaen at y ddadl fer, a galwaf ar Mark Reckless i...
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran symud tuag at fodel cyllidebu sy'n canolbwyntio mwy ar wario ataliol?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno band eang cyflym iawn ledled Cymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia