Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 10 Hydref 2018.
Diolch i Nick Ramsay am hynny. Yn wir, mae’r trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn yn drafodaethau ar gyfer fy nghyd-Aelod, Ken Skates, ond rwyf wedi trafod mater ffordd osgoi Cas-gwent gydag ef yn ddiweddar. Mae'n union fel y dywedodd Nick Ramsay: byddai oddeutu traean o’r pellter a thraean o'r gwariant yn dibynnu ar ffynonellau Llywodraeth Cymru, ac er mwyn sicrhau bod y ffordd osgoi honno o fudd, byddai'n rhaid inni sicrhau gweddill y gwariant a'r buddsoddiad o'r ochr arall i'r ffin. Gwn fod fy nghyd-Aelod, Ken Skates, yn ymwybodol iawn o'r pwysau ar y dref honno mewn perthynas â thraffig, mewn perthynas ag ansawdd aer ac ati, a gwn ei fod yn awyddus iawn i fwrw ymlaen â’r trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU ac i wneud yn siŵr y gallwn ddod â hwy at y bwrdd er mwyn inni allu sicrhau, gyda'n gilydd, fod hyn yn ddigwydd.