Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 10 Hydref 2018.
Diolch am y cwestiwn. Mae adroddiad y prif economegydd, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r gyllideb, yn dangos yn glir fod y rhagolygon ariannol ledled y DU yn heriol iawn o hyd, yn enwedig ynghanol yr ansicrwydd a grëwyd gan Brexit. Bydd rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ochr yn ochr â chyllideb y DU ar 29 Hydref, yn rhoi diweddariad pellach o'r rhagolygon cyn inni osod ein cyllideb derfynol ym mis Rhagfyr.