Effaith y Gyfradd Treth Trafodiadau Tir

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 10 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 2:08, 10 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Ie, wel, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol yn ddi-os mai sylfaen drethu'r dreth trafodiadau tir yw trafodiadau eiddo masnachol, ac yn ôl adolygiad CoStar o fuddsoddiadau mewn eiddo masnachol ar gyfer yr ail chwarter, sydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn arolygu pob trafodiad masnachol mwy o faint na hynny, a llawer mwy ledled y DU, £40 miliwn yn unig oedd cyfanswm y buddsoddiad mewn eiddo masnachol yng Nghymru yn yr ail chwarter. Dyna ddirywiad o 78 y cant o gymharu â'r cyfartaledd pum mlynedd. Onid yw'n wir, fel y mae nos yn dilyn dydd, y bydd cwymp mewn trafodiadau eiddo masnachol yn arwain at gwymp mewn refeniw treth masnachol ar y dreth trafodiadau tir, diolch i'ch uwchdreth o 6 y cant?