Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 10 Hydref 2018.
Diolch i Rhianon Passmore. Bydd Ysbyty Athrofaol y Grange, sy'n bwysig iawn i'r bobl sy'n byw yn ne-ddwyrain Cymru wrth gwrs, gan gynnwys Mynwy, yn derbyn £350 miliwn o gyllid o'r rhaglen gyfalaf ar gyfer Cymru gyfan. Ddirprwy Lywydd, dyma'r cynllun ariannol mwyaf yn holl raglen gyfalaf y GIG. Mae'n ychwanegol at y £217 miliwn a ddarparwyd eisoes ar gyfer rhaglen Dyfodol Clinigol Gwent. Mae'n dangos bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cynllun Ysbyty Athrofaol y Grange i ddyfodol y gwasanaethau meddygol acíwt yn y rhan hon o Gymru.