Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 10 Hydref 2018.
Ddirprwy Lywydd, byddwn yn buddsoddi £10 miliwn yn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon i fynd i'r afael â digartrefedd. Mae'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2019-20 yn ailadrodd y £10 miliwn hwnnw ac yn ychwanegu £10 miliwn arall yn benodol ar gyfer mynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc, gan wneud cyfanswm o £30 miliwn o fuddsoddiad newydd yn y maes hollbwysig hwn.