Band Eang Cyflym Iawn ym Mynwy

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 10 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:23, 10 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Roedd yn gyfarfod cadarnhaol iawn, mewn gwirionedd, a thrafodwyd nifer o atebion arloesol y gallem eu rhoi ar waith mewn cydweithrediad â chyngor Sir Fynwy ei hun, yn ogystal â chyda grŵp o'r trigolion sy'n awyddus iawn i weld a allent sicrhau ateb pwrpasol ar gyfer eu cymuned eu hunain. Mae hynny'n rhoi cyfle i mi ddweud wrth bawb yn y Siambr—heb os, byddaf yn dweud hyn yn eithaf aml yn ystod fy nghwestiynau, Ddirprwy Lywydd—ein bod yn awyddus iawn i gefnogi atebion cymunedol arloesol ledled Cymru lle ceir cymunedau o bobl sy'n barod i archwilio'r atebion hynny. Mae'r tîm sy'n hwyluso hynny wrthi'n gwneud hynny ar hyn o bryd.