Y Pumed Genhedlaeth yng Ngogledd Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 10 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:26, 10 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Roedd yn dda clywed y bydd Sir Fynwy yn chwarae rhan yn ardaloedd peilot gwledig Llywodraeth y DU ar gyfer 5G. Mae Caerdydd yn cael arian ar gyfer rhwydwaith ffeibr llawn lleol. Gwyddom am y ganolfan lled-ddargludyddion cyfansawdd gyntaf a fydd wedi'i lleoli yn ne Cymru, ac wrth gwrs, gwyddom am gynllun strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cymoedd Technoleg. Felly, mae llawer o ffocws a llawer o fuddsoddi'n digwydd, nid yn unig gan eich Llywodraeth chi, ond gan Lywodraeth y DU, mewn perthynas â de Cymru. Ond beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau nad yw ardaloedd yng ngogledd Cymru a rhannau eraill o Gymru yn ôl-ystyriaeth braidd sy'n gorfod dal i fyny bob amser?