Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 10 Hydref 2018.
Diolch i arweinydd y tŷ am fynychu cyfarfod cyhoeddus yn fy etholaeth yn gynharach eleni i drafod pryderon fy etholwyr mewn perthynas â band eang. Yn ddi-os, fe fydd hi'n gwybod am y rhwystredigaeth y mae fy etholwyr yn ei deimlo am nad ydynt yn gallu cael mynediad at wasanaeth bang eang digonol. Rwy'n sylweddoli y bydd yn gwneud datganiad ar y cytundeb newydd yr wythnos nesaf, ond a yw'n gallu rhoi sicrwydd i fy etholwyr na fydd cymunedau fel Mynachlog-ddu yn cael eu gadael ar ôl, ac y bydd y cytundeb newydd hwn, mewn gwirionedd, yn darparu gwasanaeth band eang digonol ar gyfer cymunedau fel Mynachlog-ddu?