Bwlio ar Sail Rhyw

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 10 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:57, 10 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Mae achosion cynyddol o fwlio homoffobig a bwlio ar sail rhywedd ar-lein yn cael effaith enfawr ar bobl ifanc yng Nghymru. Yr wythnos hon, cawsom wybod bod gweinidog hoyw yn wynebu cam-drin ar-lein cyson, gan amlaf yn galw arno i ladd ei hun. Mae menywod ifanc yn cael eu cymell i beidio â mynd i fyd gwleidyddiaeth oherwydd y llif cyson o gamdriniaeth a bygythiadau trais rhywiol y maent yn ei wynebu ar gyfryngau cymdeithasol, ac mae bwlio ar gyfryngau gymdeithasol wedi cael ei gysylltu â chynnydd mewn hunanladdiad ymhlith plant. Arweinydd y tŷ, beth arall y gallwch chi a'ch cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ei wneud i helpu i ddod â'r math hwn o ddioddefaint i ben?