Trais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig

Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 10 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:04, 10 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Rydym yn parhau i weithredu ein strategaeth genedlaethol. Yn dilyn mewnbwn gan ein cynghorwyr cenedlaethol a'n rhanddeiliaid, cyhoeddwyd ein fframwaith cyflawni ym mis Gorffennaf. Cyhoeddir dangosyddion cenedlaethol drafft ar gyfer ymgynghori erbyn diwedd eleni, a byddwn yn cefnogi'r broses o gyflwyno rhagor o hyfforddiant 'gofyn a gweithredu'.