Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 10 Hydref 2018.
Diolch am y cwestiwn. Roedd yn wythnos arbennig. Gobeithio eich bod chi i gyd yn cytuno â hynny. Cynhaliwyd gwerthusiad a ddaeth i'r casgliad bod cyfranogiad y Cynulliad yn yr Eisteddfod wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Roedd y mesurau yn cynnwys nifer yr ymwelwyr ar yr ystad, y gwaith ymgysylltu a wnaed, y gost, ac enw da y Senedd a'n staff. Roedd y canlyniadau yn cynnwys cynnydd enfawr mewn ymwelwyr â'r ystad: daeth dros 29,000 o bobl i'r Pierhead, a thros 18,000 o bobl i'r Senedd, gan gymryd rhan yng ngwaith ymgynghori pwyllgorau, yn ogystal â chael gwell dealltwriaeth o'n gwaith.