Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 10 Hydref 2018.
Diolch. Wel, rydym yn ymgysylltu â dros 20,000 o bobl ifanc bob blwyddyn, a bydd eu hanner yn dod i gysylltiad â ni ar yr ystâd. Gwahoddir grwpiau ieuenctid, colegau ac ysgolion i gymryd rhan mewn sesiynau yn Siambr Hywel, ac rydym hefyd yn teithio i ysgolion—dylai hynny fod yn fwy cyfleus iddynt. Mae ystod y gwasanaethau a gynigir i bobl ifanc yn cael ei hysbysebu ar y wefan hefyd— felly, rwy'n rhoi sylw i hynny yn awr fel bod mwy o bobl yn gwybod—yn ogystal ag ar draws y cyfryngau cymdeithasol, y tîm addysg ac ymgysylltu â phobl ifanc, drwy gylchlythyr Dysg, a thrwy lwyfan dysgu Hwb.