Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 10 Hydref 2018.
O, yn bendant. Gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi yn awr. Mae pawb ohonom am weld hyn yn gweithio. Mae'r ffigurau sydd gennym—. Dyma'r tro cyntaf i ni ei wneud; mae wedi digwydd ar sail amcangyfrifon gorau a chymariaethau â syniadau tebyg mewn Seneddau eraill. Ond os nad yw'n ddigon o arian, bydd yn rhaid i ni fel Comisiwn ddod o hyd i adnoddau ychwanegol i wneud yn siŵr y gallwn ei gefnogi'n briodol, oherwydd os na fyddwn yn ymroi'n llwyr i hyn, nid oes pwynt i ni ei wneud o gwbl.