Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 10 Hydref 2018.
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Mae'n gwestiwn difrifol ac fel y sylwch o gyllidebau yn y blynyddoedd mwyaf diweddar, mae'r Comisiwn eisoes wedi buddsoddi'n sylweddol mewn diogelwch amddiffynnol ar draws yr ystâd ond hefyd yn swyddfeydd yr Aelodau, ac adolygir hyn yn rheolaidd, gan ystyried lefel y bygythiad o derfysgaeth ryngwladol i'r DU. Ac yn ogystal â darparu cyngor diogelwch priodol a hyfforddiant ymwybyddiaeth diogelwch cynhwysfawr i'r Aelodau a staff y Comisiwn, rydym wedi cynyddu lefelau diogelwch rhag ymosodiadau seiber, sydd, wrth gwrs, yn anweledig—nid ydym yn ei weld yn yr un modd ag y gwelwn ein presenoldeb diogelwch, sydd hefyd wedi cynyddu—ac rydym yn gweithio gyda nifer o asiantaethau i ddatblygu a chyflwyno pecyn go gadarn.