Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 10 Hydref 2018.
Mae dathliadau dwbl yn Ninbych yr wythnos yma, gyda phenblwydd Canolfan Iaith Clwyd, wedi 30 mlynedd o ddarparu addysg Gymraeg i oedolion. Ac mae hi hefyd yn 10 mlynedd ers agor amgueddfa gwbl unigryw Gwefr heb Wifrau—Wireless in Wales—sydd hefyd wedi ei lleoli yn yr un adeilad, yng nghanol y dref yn Ninbych. Y prif symbylydd dros sefydlu’r ddau gorff oedd y diweddar David Jones, cyn-faer Dinbych, dysgwr Cymraeg, rhyng-genedlaetholwr pybyr, a gŵr a oedd â diddordeb mawr mewn hanes radios, a’r cysylltiad rhwng datblygiad radios a goroesiad yr iaith Gymraeg, a’r cysyniad o Gymru fel cenedl.
Bu David yn allweddol yn yr ymgyrch i agor canolfan iaith sirol gyntaf Cymru yn Ninbych, a’i gasgliad personol ef o hen radios yw craidd yr amgueddfa hynod ddiddorol a leolir yng Nghanolfan Iaith Clwyd yn y dref. Roedd e'n aelod o Blaid Cymru, ac yn rhyngwladol ei ddaliadau. Mi helpodd e sefydlu cymdeithas Cymru Cuba, ac mae Vesi, ei wraig, sy'n hannu o Fwlgaria, yn dal i fod yn weithgar gyda’r amgueddfa.
Mae’r ganolfan iaith, wrth gwrs, wedi datblygu gryn dipyn ers ei sefydlu yn ganolfan iaith sirol gyntaf Cymru. Yn dilyn ad-drefnu Cymraeg i oedolion ddwy flynedd yn ôl, mae Popeth Cymraeg bellach yn gyfrifol am gyrsiau sir Ddinbych i gyd. Mae hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg Cambria, sy’n gyfrifol am ddosbarthiadau Cymraeg yn siroedd Wrecsam a’r Fflint.
Mae’n deg dweud na fyddai’r miloedd sydd wedi elwa o’r cyrsiau yma, na’r miloedd sydd wedi ymweld â’r amgueddfa radios, wedi cael y cyfle heb weledigaeth addfwyn o styfnig ein cyfaill diweddar, David Jones. Mae’n dyled ni’n fawr i rywun a oedd yn bencampwr cymunedol go iawn, a dyna pam fy mod i am inni gofio heddiw a dymuno, wrth gwrs, yn dda i'r ddwy ganolfan ar eu penblwyddi arbennig.