Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 10 Hydref 2018.
Mae datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 9 Rhagfyr 1975, yn datgan bod gan bob person anabl yr un hawliau â phersonau eraill, ac yn cydnabod y rhwystrau a grëwyd gan sefydliadau cymdeithasol a chymdeithas yn gyffredinol—y model cymdeithasol o anabledd y cyfeiriodd Helen Mary ato. Er nad ydynt yn rhwymol, roedd y datganiad yn ddechrau ar ymagwedd newydd tuag at faterion anabledd fel materion hawliau dynol.
Mabwysiadwyd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl ar 13 Rhagfyr 2006, a llofnododd Llywodraeth y DU y cytuniad cyfreithiol hwn yn 2009. Mae'n nodi pa hawliau y dylai pobl anabl eu cael, ochr yn ochr â meincnodau rhyngwladol, ac mae'n cynnwys meysydd fel iechyd, addysg, cyflogaeth, mynediad at gyfiawnder, diogelwch personol, byw'n annibynnol a mynediad at wybodaeth.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn glir ei bod am i'r DU arwain 'ras i'r brig yn fyd-eang' o ran hawliau a safonau, nid ras gystadleuol i'r gwaelod. Fodd bynnag, mae budd mewn ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yng nghyfraith Cymru er mwyn cryfhau a hyrwyddo hawliau pobl anabl, fel y gwnaeth Llywodraeth Cymru gyda hawliau plant drwy ymgorffori'r confensiwn ar hawliau'r plentyn yng nghyfraith Cymru yn 2011. Felly, byddwn yn cefnogi'r cynnig deddfwriaethol hwn.
Pan gawsom y ddadl yma yn 2010 i gefnogi ymgyrch Byw'n Annibynnol Anabledd Cymru, cyflwynodd Llywodraeth Cymru welliant yn dirymu'r cynnig ar y pryd. Yn awr, wrth gwrs, mae pawb yn siarad o blaid byw'n annibynnol. Fel y nodai'r ymgyrch, mae byw'n annibynnol yn galluogi pobl anabl i gyflawni eu nodau eu hunain a byw eu bywydau eu hunain yn y ffordd y maent yn dewis iddynt eu hunain.
Ar ôl imi arwain dadl ar gydgynhyrchu yn y Cynulliad diwethaf, gwrthododd rhai o Weinidogion Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r term wedyn. Fel y dywedais, mae'n ymwneud â gweld pawb fel partneriaid cyfartal mewn gwasanaethau lleol, gan chwalu'r rhwystrau rhwng pobl sy'n darparu gwasanaethau a'r rhai sy'n eu defnyddio. Dywedais fod hyn yn mynd y tu hwnt i fodelau o ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth i ddarparu gwell gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau eraill i boblogaeth sy'n heneiddio, i bobl sy'n wynebu salwch ac anabledd, i bobl economaidd anweithgar ac i'r rhai sydd wedi'u hynysu'n gymdeithasol.
Yn 2013, lluniwyd fy Mil arfaethedig Aelod, Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru), i gynnig dewis, rheolaeth ac annibyniaeth i ofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau. Dywedodd y Dirprwy Weinidog y byddai'n hoffi i'r egwyddorion yn fy Mil gael eu cyflwyno ym Mil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), fel yr oedd ar y pryd, ac felly cytunais i'w dynnu'n ôl a gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar hyn. Mae 'Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014—Rhan 2: Cod Ymarfer (Swyddogaethau Cyffredinol)', yn nodi bod
'Rhaid i awdurdodau lleol geisio grymuso pobl i gynhyrchu atebion arloesol... drwy rwydweithiau lleol a chymunedau', a bod hyn
'yn golygu rhoi trefniadau cadarn ar waith i sicrhau cyfraniad pobl at gynllunio a gweithredu gwasanaethau.'
Mae hefyd yn nodi
'bod llesiant yn cynnwys agweddau allweddol ar fyw'n annibynnol, fel y nodwyd yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau' a bod
'y dull o hyrwyddo llesiant pobl... yn un sy'n cydnabod y gall gofal a chymorth gyfrannu at ddileu rhwystrau... yn unol â'r model cymdeithasol o anabledd', gan gydnabod fframwaith gweithredu ar fyw'n annibynnol Llywodraeth Cymru, sy'n mynegi hawliau pobl anabl i gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd.
Er hyn, rwy'n dal i glywed bron yn ddyddiol gan bobl anabl, cymunedau a gofalwyr eu bod yn gorfod ymladd am y gefnogaeth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt i'w galluogi i fyw bywydau normal, am nad yw'r bobl ar gyflogau bras sydd mewn grym am rannu'r grym hwnnw ac am eu bod yn credu eu bod yn gwybod yn well.
Rydym wedi cael deddfwriaeth lawn bwriadau da sydd i fod i ymwneud â llunio a darparu gwasanaethau gyda phobl, yn hytrach nag ar eu cyfer ac iddynt, ac eto clywn straeon megis y ffaith na chaiff defnyddwyr cadeiriau olwyn fynediad i lwybr yr arfordir yn Sir y Fflint o hyd ac fel y soniais yn gynharach, y ffaith bod y gymuned fyddar yng Nghonwy wedi gorfod mynd at yr ombwdsmon ar ôl i'w cyngor ddatgomisiynu eu gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain.
Y realiti yw bod mwy a mwy o bobl yn wynebu argyfyngau y gellir eu hosgoi, a bod angen mwy o integreiddio, annibyniaeth a grymuso ar gyfer pobl anabl.