Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 10 Hydref 2018.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Amser byr iawn sydd gennyf i ymateb. Rwy'n ddiolchgar iawn i Mark Isherwood, yn enwedig am ei bwyntiau am y bwlch rhwng polisi a'r gwirionedd, a dyna pam y credaf fod angen inni symud tuag at ddeddfu: oherwydd mae gan bobl anabl hawl i gamau unioni os nad yw eu hawliau'n cael eu bodloni. Ar hyn o bryd, mae ganddynt elfen o hawl i gamau unioni, wrth gwrs, drwy'r Ddeddf cydraddoldebau, ond deddfwriaeth nad yw'n cael ei rheoli yn y lle hwn yw honno, ac rwy'n ddiolchgar hefyd am gefnogaeth Mark i'r egwyddor o ddeddfwriaeth bellach.
Cefais fy nharo'n benodol gan Michelle Brown ynglŷn ag agweddau pobl eraill a'r modd y maent yn mynd yn y ffordd. Gall ddigwydd i unrhyw un ohonom; gall fod gennym ganfyddiadau am yr hyn nad yw pobl yn gallu eu gwneud yn hytrach na meddwl am y pethau y maent yn gallu eu gwneud. Cefais fy nharo'n arbennig gan y pwynt ynglŷn â chyflogwyr o bosibl yn elwa ar y penderfyniad, y sgiliau a'r dewrder a fydd gan lawer o bobl anabl sydd, yn wahanol i'r rhelyw ohonom, yn wynebu brwydrau enfawr i wneud dim mwy na byw eu bywydau bob dydd. Ac unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iddi am ei chefnogaeth.
Rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn a ddywedodd arweinydd y tŷ am rywfaint o'r cynnydd a wnaed yma yng Nghymru. Byddai mudiadau pobl anabl yn dweud yr un peth yn union wrth gwrs, ac rwy'n croesawu'r camau gweithredu a roddwyd ar waith eisoes. Mewn sawl ffordd, rwy'n credu y byddai pobl anabl yn dweud eu bod yn nes at gael eu hawliau wedi'u gwireddu yma yng Nghymru nag y byddent mewn rhannau eraill o'r DU. Fodd bynnag, wedi dweud hynny, o ran mynediad pobl anabl at wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, rwy'n dal i gredu bod arnom angen deddfwriaeth y gall pobl anabl ei defnyddio os ydynt yn teimlo nad yw eu hawliau'n cael eu parchu, am nad yw llawer o'r polisi cenedlaethol cryf y mae arweinydd y tŷ yn sôn amdano yma yn cael ei ddarparu ar lawr gwlad mewn gwirionedd, a gallai fod nifer o resymau am hynny—efallai ei fod yn ymwneud ag adnoddau, efallai ei fod yn ymwneud â diffyg ymwybyddiaeth.
Rwy'n ddiolchgar iawn hefyd i arweinydd y tŷ am awgrymu ein bod yn cyfarfod i drafod sut i fwrw ymlaen, ac rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r hyn sydd ganddi i'w ddweud am y dirwedd hawliau dynol ar ôl Brexit: nid ydym yn gwybod sut beth fydd honno. Ofnaf y gallem weld darpariaethau deddfwriaeth y DU yn cael eu gwanhau. Byddai hynny, wrth gwrs, yn ddadl dros inni gymryd camau cryfach yma yng Nghymru. Felly, edrychaf ymlaen at gyfarfod gydag arweinydd y tŷ i drafod hyn, ac rwy'n mawr obeithio y byddwn yn pleidleisio dros eu hymgorffori.