Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 10 Hydref 2018.
Rwy'n cefnogi'r cynnig hwn. Wrth gwrs, ceir amrywiol fathau o anabledd ac ar un ystyr, mae pob anabledd yn unigryw i'r person dan sylw. Mae pobl anabl yn wynebu problemau gyda chael mynediad at addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a gwasanaethau, boed yn rhai cyhoeddus neu breifat. Mae'n wir fod hawliau pobl anabl wedi gwella dros y 40 mlynedd diwethaf, ond nid yw hynny'n dweud llawer o gofio sut y cawsant eu trin yn y gorffennol. Ceisiodd deddfau fynd i'r afael â gwahaniaethu yn y gweithle ac wrth ddarparu gwasanaethau, er enghraifft, ac rwy'n croesawu'r symud ardderchog yn y Bil ADY i ragdybiaeth y dylai plant ag anghenion dysgu ychwanegol gael eu haddysgu mewn ysgol brif ffrwd, ond mae llawer i'w wneud eto.
Ond am nawr, hoffwn ganolbwyntio ar un anabledd penodol, sef nam ar y golwg. Un o bob pedwar unigolyn oedran gweithio a gofrestrwyd yn ddall neu'n rhannol ddall sydd mewn gwaith cyflogedig, ac mae'r nifer yn gostwng. Mae'r ffigur hyd yn oed yn waeth ar gyfer pobl sy'n hollol ddall. Oddeutu un o bob 10 o bobl gyda golwg gweithredol gwan sydd mewn gwaith cyflogedig, ac er bod bwlch cyflogaeth anabledd enfawr—y gwahaniaeth rhwng pobl anabl mewn gwaith, sef 48 y cant, a'r boblogaeth yn gyffredinol, sef 80 y cant—mae'r bwlch cyflogaeth ar gyfer pobl a gofrestrwyd yn ddall a rhannol ddall bron yn ddwbl y bwlch ar gyfer pobl ag anableddau eraill.
Canfu arolwg gan y Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Plant Dall ym mis Chwefror eleni fod dros chwarter o oedolion yn credu bod gan blant dall wahanol freuddwydion a dyheadau i'w cyfoedion nad ydynt yn ddall. Yn ôl yr arolwg, ceir llawer o anwybodaeth hefyd ynglŷn â'r hyn y gall plant a phobl ddall a rhannol ddall ei wneud. Er enghraifft, roedd 52 y cant o'r ymatebwyr yn credu'n anghywir na fydd plant dall a rhannol ddall yn gallu byw ar eu pen eu hunain fel oedolion, teithio, coginio na bod yn gyfrifol am eu trefniadau ariannol eu hunain, felly gallwch weld sut y byddent o dan anfantais mewn pethau fel y maes tai, cyflogaeth a meysydd eraill os yw'r bobl o'u cwmpas yn credu'r pethau hynny ynglŷn â'u galluoedd. Dim ond 11 y cant o bobl a gredai fod bod yn ddall neu'n rhannol ddall yn ei gwneud hi'n anos i blant wneud ffrindiau, ond yn anffodus, mae'r RNIB yn dweud nad oes gan ddau o bob pump plentyn dall ffrindiau lleol i chwarae gyda hwy.
Mae yna amrywiaeth o brosiectau a rhaglenni ar gael. Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn 22 mlwydd oed—gwn ei bod wedi'i disodli bellach. Mae'n bosibl y bydd hawl gan bobl anabl i arian i addasu eu cartrefi ac ati, ond hyd yn hyn mae'n amlwg nad oes digon yn cael ei wneud i addasu agweddau pobl eraill tuag at anabledd, yn enwedig yn y gweithle. Eisoes, crybwyllwyd bod y confensiwn yn berthnasol yma, ond nad yw'n ymddangos ei fod wedi gwneud llawer iawn o les, ac yn sicr, nid yw'r pethau sydd wedi cael eu gwneud hyd yma wedi newid llawer iawn ar yr ystadegau cyflogaeth.
Felly, er fy mod yn cytuno gyda'r cynnig hwn i ymgorffori'r confensiwn yng nghyfraith Cymru, byddai'n rhaid iddo fod ar sail menter lawer mwy rhagweithiol na'r hyn a welwyd hyd yma i sicrhau gwir newid yn agwedd cyflogwyr a'r gymdeithas yn gyffredinol tuag at bobl anabl.
Mae llawer o bobl anabl wedi ymladd eu ffordd drwy anawsterau a heriau enfawr gyda phenderfyniad a fyddai'n codi cywilydd ar lawer ohonom, ac mae'r rheini'n sgiliau a fyddai'n werthfawr i lawer iawn o gyflogwyr. Ychydig iawn o wahaniaeth fydd mabwysiadu'r confensiwn rydym eisoes yn ddarostyngedig iddo yn ei wneud ynddo'i hun. Rhaid inni fabwysiadu'r dulliau rhagweithiol a lwyddodd i sicrhau triniaeth decach i grwpiau lleiafrifol eraill—deddfau sy'n cael eu gorfodi, hawliau sy'n cael eu hyrwyddo'n weithredol a'u cynnal, nid yn unig eu hysgrifennu, eu ffeilio a'u hanghofio.
Yn olaf, mae pobl anabl wedi bod yn y wlad hon ers i'r wlad hon ddod i fodolaeth, ac eto gellir dadlau mai hwy yw'r grŵp lleiafrifol mwyaf difreintiedig. Mae hynny'n anfaddeuol a rhaid i'r sefyllfa newid. Rydym wedi'i wneud ar gyfer pobl eraill; rhaid inni ei wneud ar eu cyfer hwy yn awr. Diolch.