Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 10 Hydref 2018.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd dros dro. Hoffwn yn fawr ddiolch i Helen Mary Jones am gyflwyno'r cynnig hwn a hefyd i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Mae'n glir iawn fod cefnogaeth eang i gryfhau hawliau pobl anabl yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i roi parch mawr i'r cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol a chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig y mae'r DU yn wladwriaeth sy'n barti iddynt ac wedi'u llofnodi. Rydym yn ceisio adlewyrchu ysbryd a sylwedd pob confensiwn ar draws ein polisïau a'n rhaglenni fel y bo'n briodol. Rhaid i gamau gweithredu Llywodraeth Cymru fod yn gydnaws â rhwymedigaethau rhyngwladol, fel y nodir yn adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.
Mae ymrwymiad i hawliau dynol yn rhan o DNA Llywodraeth Cymru. Mae'r ymrwymiad hwn yn darparu llwyfan cadarn yng Nghymru ar gyfer creu deddfwriaeth a pholisïau cryf a chynhwysol. Er enghraifft, mae pawb heddiw wedi cyfeirio at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. O dan y Ddeddf honno, fel y dywedodd Helen Mary, wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas ag pobl anabl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr anabl sydd angen cymorth, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw dyledus hefyd i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Roeddem yn falch iawn fod Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau wedi croesawu cyflwyno'r Ddeddf yn ei sylwadau terfynol, yn dilyn archwiliad o gydymffurfiaeth y DU â'r confensiwn yn 2017. Hefyd, wrth gwrs, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn ddeddfwriaeth nodedig a phwysig i hyrwyddo a diogelu hawliau pobl.
Rydym yn rhoi camau ar waith i hyrwyddo hawliau'r confensiwn yng Nghymru. Bydd ein camau gweithredu newydd ar anabledd, y fframwaith hawl i fyw'n annibynnol a'i gynllun gweithredu ategol a fydd yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori yn ei gylch yn ddiweddarach y mis hwn, yn nodi sut y mae Llywodraeth Cymru'n bwrw ymlaen ag egwyddorion y confensiwn, gan ystyried argymhellion pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn 2017 lle bo'n briodol. Rwy'n credu bod gennym y mecanweithiau eisoes ar waith i barhau i hyrwyddo hawliau pobl anabl. Fel y soniais o'r blaen, eisoes mae'n rhaid i Weinidogion Cymru weithredu mewn modd sy'n cydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn rhinwedd adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru.
Hefyd, ceir dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy i'r angen i ddileu gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad ydynt yn eu rhannu. Mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys pobl anabl, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi croesawu'r model cymdeithasol o anabledd ar draws y pleidiau yn y Siambr hon, rhywbeth y mae pobl anabl eu hunain ei eisiau'n fawr iawn. Cefais y fraint o fod yn brif siaradwr yn fforwm cyflogadwyedd Leonard Cheshire Disability ar gyfer pobl ag anableddau yn Stadiwm Liberty, yn etholaeth fy nghyd-Aelod, Mike Hedges, yr wythnos diwethaf, lle'i gwnaed yn glir iawn i mi gan y bobl ifanc anabl yno, yn benodol, ond gan amrywiaeth o bobl, eu bod yn awyddus iawn i weld y rhwystrau'n cael eu dileu, ac nid cael eu gwahardd rhag gwneud eu hunain yn well, sydd, wrth gwrs, yn ymgorffori'n llwyr yr hyn y mae'r model cymdeithasol o gynhwysiant yn ei olygu i bobl ag anableddau ac i bawb arall sydd â nodweddion gwarchodedig.
Fodd bynnag, wedi dweud hynny, dylem bob amser fod yn agored i gyfleoedd i archwilio ffyrdd o gryfhau hawliau ac amddiffyniadau yma yng Nghymru. Rwy'n cefnogi'r egwyddorion sydd wrth wraidd y cynnig yn gryf, ac rwy'n awyddus i ystyried beth arall y gellir ei wneud i ddangos ein hymrwymiad i gefnogi pobl anabl yng Nghymru. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn cyfarfod â'r Aelod i drafod beth arall y gellir ei wneud i wella hawliau pobl anabl. Mae'n rhaid imi ychwanegu nodyn o rybudd: bydd angen gofal i sicrhau nad yw cynigion yn gwrthdaro â dyletswyddau presennol nac yn eu tanseilio drwy amryfusedd. Rwy'n derbyn yn llwyr fod yr Aelod wedi ystyried hynny. Mae gennym we o ddeddfwriaeth sy'n bodoli'n barod, a buaswn yn awyddus iawn i weithio gyda chi i weld sut y gallwn wneud yn siŵr eu bod yn ymgorffori'n fframwaith di-dor ac nad ydynt yn croesi yn erbyn ei gilydd drwy amryfusedd.
Rydym hefyd ar drothwy cyfnod digynsail ac ansicr i Gymru wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae trafodaethau'n parhau ar senario 'dim bargen' neu 'fargen', a hyd nes y byddwn yn gwybod yn union beth fydd y senario hwnnw a beth y mae'n ei gynnwys, mae'n anodd iawn werthuso'n llawn beth fydd dyfodol y tirwedd hawliau dynol yng Nghymru a nodi'r llwybr gweithredu mwyaf priodol mewn perthynas â hawliau pobl anabl yn fwy cyffredinol, hyd nes y daw'r broses honno i ben a'n bod yn gwybod beth yw'r sefyllfa a chael rhywfaint o sicrwydd. Am y rheswm hwnnw, er fy mod yn croesawu'r cynnig, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn ystyried cyfarfod â mi i'w drafod ymhellach wrth inni symud ymlaen. Diolch.