9. Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig y Comisiwn — Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 10 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:33, 10 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r diwygiadau a gynigir ar gyfer eu cynnwys yn y Bil hwn yn bwysig er mwyn sicrhau bod rôl y Cynulliad, ei brosesau a'i drefniadau etholiadol yn glir. Yn fwyaf arbennig, rwy'n croesawu'r argymhelliad i ymestyn yr etholfraint ar gyfer pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad i rai 16 a 17 mlwydd oed. Yn wahanol i Gareth Bennett, credaf fod rhai 16 i 17 mlwydd oed yn berffaith abl i arfer y lefel honno o ymgysylltiad democrataidd.

Cymeradwyaf nod y Comisiwn i rymuso, ymgysylltu ac ennyn diddordeb pobl ifanc mewn cymryd rhan yn y prosesau democrataidd yng Nghymru. Ers amser maith, bu'r Llywodraeth hon o blaid ymwneud pobl ifanc yn y broses ddemocrataidd, sy'n hanfodol i sicrhau democratiaeth iach. O fewn ein Bil llywodraeth leol ac etholiadau ein hunain sydd ar y gweill, byddwn yn cynnwys darpariaethau i ganiatáu hawl i rai 16 a 17 mlwydd oed bleidleisio mewn etholiadau lleol.

Gall rhai 16 mlwydd oed gymryd rhan yn gyfreithiol mewn llu o weithgareddau, felly mae'n iawn ac mae'n gyfiawn ein bod yn caniatáu llais iddynt hefyd i siarad a phleidleisio ar faterion sy'n effeithio arnynt hwy, fel y maent yn effeithio ar bawb arall.