Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 10 Hydref 2018.
A gaf fi ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma? Fel y dywedodd Suzy Davies wrth iddi ddechrau ei ymateb, rydym wedi dod yn bell, cryn bellter o'r Cynulliad Cenedlaethol a etholwyd gyntaf yn 1999. Rydym yn Senedd go iawn—eich geiriau chi—rydym yn Senedd go iawn yn awr, a dylem alw ein hunain yn hynny ym mha iaith bynnag, a dof at y pwynt hwnnw yn nes ymlaen.
Ymddengys bod mwyafrif o gefnogaeth yn y Siambr hon i ganiatáu i bobl ifanc—rhai 16, 17 oed—i gael pleidlais ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol, neu Senedd Cymru. Disgrifiodd Siân y peth yn hyfryd—mae pobl ifanc yn benseiri ar eu dyfodol; mae angen iddynt gael llais ym mhensaernïaeth eu dyfodol. Nid yw'n rhywbeth y mae pawb yma yn cytuno yn ei gylch, ac roedd hynny'n wir, gyda llaw, yn yr ymatebion a gawsom i'r ymgynghoriad hefyd, lle roedd mwyafrif o blaid gweld rhai 16 a 17 oed yn pleidleisio, er nad oedd pawb yn cefnogi hynny.
Ar rannu swyddi, y pwyntiau a wnaeth Jane Hutt a Siân Gwenllian, rwy'n deall y siom ynglŷn â'r ffaith nad yw argymhelliad y panel arbenigol ar rannu swyddi'n mynd i gael ei gyflwyno yn y ddeddfwriaeth hon, a chawsom drafodaeth am hyn yn y Comisiwn. Nid ydym yn argyhoeddedig ar hyn o bryd fod uwch-fwyafrif yn y Siambr hon o blaid cyflwyno hynny fel rhan o'r ddeddfwriaeth, ond yn fwy sylfaenol mae'n debyg, ceir problem gyda chymhwysedd lle mae'n ymwneud â hawl Aelod Cynulliad i ddod yn Weinidog neu'n Ysgrifennydd Cabinet. Ac nid wyf am fod mewn sefyllfa lle'r etholir Aelodau i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn sy'n cael bod yn Aelodau Cynulliad, ond heb fod ganddynt hawl i ddod yn Ysgrifenyddion Cabinet. I bob pwrpas, byddai gennym ddwy haen o Aelodau ar y pwynt hwnnw. Felly, dyna fater sy'n galw am ei ddatrys cyn i ni ymgymryd ag unrhyw ddeddfwriaeth ar y mater hwn. Daw ei amser—nid oes amheuaeth ynglŷn â hynny—ond nid yw wedi dod eto.
Nawr, mynegwyd y safbwyntiau gwahanol ynglŷn â beth i alw'n hunain. Ni chredaf y dylem ymroi'n ormodol i ystyried beth i'w roi'n enw arnom ein hunain neu beth i'w roi'n enw ar y Senedd hon. Rydym yn mynd i fod yn Senedd, yn 'Parliament'. Mae'n amlwg fod gwahaniaeth barn wedi'i fynegi yma heddiw ynglŷn ag a ddylem ddefnyddio'r enw Cymraeg yn unig, Senedd, i gyfeirio at y lle hwn yn hytrach na Senedd Cymru/Welsh Parliament. Gadewch imi eich atgoffa chi i gyd fod angen i 40 o'r 60 ohonoch gytuno i'r newid enw hwn fel rhan o'r ddeddfwriaeth wrth iddi weithio ei ffordd drwy'r Cynulliad Cenedlaethol a chyrraedd Cyfnod 4. Y rhai ohonoch sy'n cefnogi 'Senedd' a'i ddefnydd yn y Gymraeg yn unig—edrychwch i weld a oes 40 ohonoch a fyddai'n cefnogi hynny, a dyna'r ffordd i wneud y newid hwnnw.
Fel y dywedodd Lee Waters, bydd yr hyn y byddwn yn galw ein hunain fel Aelodau Cynulliad, o'r Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd, yn deillio o'r hyn y byddwn yn ei alw'n Senedd, yn 'Welsh Parliament', a bydd meddyliau plentynnaidd—fel y galwoch chi eich hun, rwy'n credu, Lee—yn chwarae ar rai fersiynau o'r hyn y galwn ein hunain. Ond unwaith eto, buaswn yn gofyn ichi—mae angen inni gytuno ar hyn; mae angen inni gael 40 o'r 60 ohono, ohonom—mae gennyf bleidlais ar hyn, gyda llaw, yn yr achos penodol hwn, fel sydd gan Ann Jones, felly mae angen i 40 o'r 60 ohonom gytuno ar hyn, ac ni ddylem bendroni a threulio gormod o amser ar y peth. Mae rhai wedi dweud bod angen inni dreulio mwy o amser ar beth y mae'r Senedd yn ei wneud mewn gwirionedd, ac rwy'n cytuno â hynny, ond rydym yn Senedd, rydym yn galw ein hunain yn hynny ac rydym yn gweithio ar ran pobl Cymru, ac er mwyn inni wneud hynny, a gadewch i ni ddechrau heddiw, gobeithio, ar y broses o ddeddfu ar y materion hyn. Bydd craffu'n dilyn a gellir archwilio'r holl fanylion ar y pwynt hwnnw, ond rwy'n gobeithio y caniatewch i'r Comisiwn gyflwyno'r Bil hwn ar gyfer ei graffu gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Diolch.