Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 16 Hydref 2018.
Prif Weinidog, ychydig wythnosau yn ôl, yn ystod y datganiad busnes, codais achos gyrrwr yng Nghasnewydd a aeth yn groes i gyngor ei optegydd i gadw oddi ar y ffordd oherwydd ei olwg gwael. Yn dilyn hynny, achosodd ddamwain ffordd angheuol ar yr M4. Ar hyn o bryd, cyfrifoldeb y gyrrwr yw hysbysu'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau nad ydyn nhw'n cael gyrru mwyach. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog ymchwilio i'r mater hwn, gyda'r nod o'i gwneud yn orfodol i optegwyr yng Nghymru hysbysu'r DVLA pan fydd golwg gyrrwr wedi dirywio i'r fath raddau ei fod yn berygl i'w hun ac i fodurwyr eraill ar y ffordd yng Nghymru, os gwelwch yn dda?