Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 16 Hydref 2018.
Yn gyntaf, nid yw'r mater wedi'i ddatganoli. Yn ail, rwy'n amau bod rhai materion diogelu data eithaf difrifol y byddai'n rhaid eu goresgyn pe byddai optometryddion yn cael eu hysbysu bod yn rhaid iddyn nhw hysbysu am rhywun nad oedd ei olwg yn ddigon da i'w alluogi i yrru. Cyfrifoldeb unigolyn yw gwneud yn siŵr ei fod yn addas i yrru. Mae'r un fath gyda'u golwg. Mae'r un fath, wrth gwrs, os oes gan rywun salwch sy'n effeithio ar ei yrru—mae'n ymrwymiad iddyn nhw hysbysu'r DVLA. Gallai eu hyswiriant gael ei ddiddymu o ganlyniad ac, wrth gwrs, byddan nhw'n wynebu cyhuddiadau troseddol os byddant yn achosi damwain o dan amgylchiadau penodol. Felly, er fy mod i'n deall yr angen i sicrhau bod gan bobl olwg digon da i allu gyrru, rwy'n credu ei fod yn fater o gyfrifoldeb personol, ac nid yn fater beth bynnag, wrth gwrs, sydd wedi'i ddatganoli i'r Cynulliad hwn.