Tlodi Plant

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 16 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:32, 16 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r rhain yn faterion sy'n dal i gael eu harchwilio. Wrth gwrs, mae beth bynnag a wnawn yn cael ei effeithio gan y cyllid sydd ar gael. Ac rydym ni'n gwybod nad yw'r sefyllfa yn mynd i wella, er fy mod i'n sylwi, ar ôl dod i'r swydd hon wrth i gyni cyllidol ddechrau, fel yr wyf i ar fin gadael bod Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi ei fod ar ben. Ni wnaf i ei gymryd yn bersonol. Ond os yw'n wirioneddol wir bod cyni cyllidol ar ben, yna bydd hynny'n golygu y bydd mwy o adnoddau ar gael i ddarparu'r math o wasanaethau y byddem yn hoffi eu darparu ac yr ydym ni wedi llwyddo i'w darparu, ar y cyfan, er gwaethaf gafaeliad tynn cyni cyllidol.