Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 16 Hydref 2018.
Prif Weinidog, mae'r cynllun gweithredu economaidd yn datgan,
Bydd swyddi o ansawdd da a rhanbarthau sy’n fannau deniadol i weithio, i fyw ac i fuddsoddi ynddynt, yn rhoi rheswm i bobl aros neu ddychwelyd i weithio ac i fyw mewn cymunedau lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.
Mae addysg dda, wrth gwrs, yn sail i'r uchelgais hwn, ac, er ei bod yn ymddangos bod y datganiadau hyn wedi eu targedu at bobl ifanc sydd eisoes mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith, mae bod yn ddwyieithog yn fantais yn y gweithle ac yn offeryn o symudedd cymdeithasol hefyd. Felly, pa lwyddiant y mae eich Llywodraeth yn ei gael yn codi lefel sgiliau Cymraeg ymhlith pobl ifanc sy'n byw mewn cymunedau lle nad yw'r Gymraeg yn iaith gymunedol?