Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 16 Hydref 2018.
Rydym ni'n cefnogi biomas ond, wrth gwrs, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod y gymysgedd ynni mor eang â phosibl, gan gymryd i ystyriaeth ein hymrwymiadau o ran lleihau ein hôl troed carbon. Dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni wedi gweld gweithfeydd biomas ledled Cymru. Wrth gwrs, mae biomas yn adnewyddadwy yn yr ystyr y gallwch chi ail-blannu coed mewn ffordd, er enghraifft, nad yw'n bosibl gyda glo.