Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 16 Hydref 2018.
Diolch, Llywydd. Ychwanegaf fy nghydymdeimlad â theuluoedd y bobl a gafodd eu heffeithio gan y digwyddiadau trasig dros y penwythnos. Nawr, Prif Weinidog, byddwch yn gwbl ymwybodol o effeithiau amgylcheddol llosgi coed. Mae rhai amgylcheddwyr o'r farn bod llosgi coed yn ffynhonnell o lygredd aer. Mae llosgi pren o goed hefyd yn rhyddhau gwenwynau crynodedig yn ôl i'r aer, gan gynyddu ein hôl troed carbon. Felly, hoffwn ofyn i chi, Prif Weinidog, beth yw polisi Llywodraeth Cymru o ran llosgi coed?