Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 16 Hydref 2018.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn amlwg, nid yw llifogydd yn flaenoriaeth i'ch Llywodraeth, oherwydd nid yw'r llythyr cylch gwaith gan Weinidog yr amgylchedd, sy'n pennu'r blaenoriaethau ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru bob blwyddyn, yn blaenoriaethu llifogydd, rheoli perygl llifogydd na rheoli dŵr o gwbl. Dyma'r diweddaraf mewn rhestr faith o fethiannau yn Cyfoeth Naturiol Cymru, a gwendid eich Llywodraeth chi i reoli'r sefydliad hwn yn briodol. Prif Weinidog, sut byddwch chi a'ch Gweinidog yn cael rheolaeth dros y mater hwn nawr a sicrhau y bydd llifogydd a rheoli perygl llifogydd yn flaenoriaeth i chi a'ch Llywodraeth yn y dyfodol?