Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 16 Hydref 2018.
Wel, gan gynrychiolydd y blaid a greodd y traed moch llwyr—nid wyf i'n credu y gallwn ni dderbyn unrhyw wersi ganddyn nhw. Fel y dywedais wrtho yn gynharach, rydym ni wedi darparu dros £350 miliwn o fuddsoddiad ledled Cymru mewn awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i leihau'r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol.
Ond ni all ddianc rhag y ffaith ein bod ni wedi gweld blwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn o doriadau i'n cyllideb yma yng Nghymru, hyd yn oed wrth i'w blaid ef brynu pleidleisiau Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd—£1 biliwn; tawelwch o feinciau'r Ceidwadwyr. A wnaethon nhw sefyll dros Gymru? Naddo siŵr. A wnaethon nhw gwyno i'w cyd-Aelodau yn Llundain? Naddo siŵr. Haws o lawer ceisio rhoi'r bai arnom ni, pan fo'n cyllideb yn cael ei thorri flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, na cheisio â dylanwadu ar eu cydweithwyr yn Llundain, y maen nhw'n dweud bod ganddyn nhw lawer iawn o ddylanwad drostynt, a rhoi'r chwarae teg i Gymru y mae Cymru yn ei haeddu—y £4 biliwn ychwanegol hynny—ac, wrth gwrs, sicrhau nad yw Gogledd Iwerddon yn cael £1 biliwn, gyda dim byd i'r Alban a Chymru yn y dyfodol. Cyfrifoldeb yw hynna—efallai yr hoffai ymddiheuro i bobl Cymru am ei fethiant yn hynny o beth.