Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 16 Hydref 2018.
Wel, mae'r gwaith o wireddu ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ar gam cyffrous, wrth i ni fwrw ymlaen i ail-lunio gwasanaethau rheilffyrdd trwy fasnachfraint newydd Cymru a'r gororau, metro de Cymru, wrth gwrs, metro gogledd Cymru hefyd, ac yn ein cynlluniau ar gyfer teithio llesol, gwasanaethau bws lleol a buddsoddiadau yn y rhwydwaith ffyrdd strategol.