1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Hydref 2018.
4. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwell trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru? OAQ52799
Wel, mae'r gwaith o wireddu ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ar gam cyffrous, wrth i ni fwrw ymlaen i ail-lunio gwasanaethau rheilffyrdd trwy fasnachfraint newydd Cymru a'r gororau, metro de Cymru, wrth gwrs, metro gogledd Cymru hefyd, ac yn ein cynlluniau ar gyfer teithio llesol, gwasanaethau bws lleol a buddsoddiadau yn y rhwydwaith ffyrdd strategol.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Ddoe, adroddwyd bod nifer y teithiau bws lleol a wneir ym Mhrydain wedi cyrraedd eu hisaf mewn 12 mlynedd, ac mae siwrneiau teithwyr bws yng Nghymru wedi gostwng gan 5 miliwn y flwyddyn yn ystod yr un cyfnod. Mae'r bws yn fodd trafnidiaeth mor aruthrol o bwysig i gymaint o bobl, felly beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i annog pobl i fynd ar y bws a gwella'r amgylchedd a gwella pethau yn gyffredinol?
Wel, rwy'n credu y bydd angen deddfwriaeth ar gyfer hyn, oherwydd rydym ni'n gwybod—a bydd llawer ohonom ni wedi cael etholwyr yn dod atom ni yn cwyno am wasanaeth bws yn cael ei dorri, ond wrth gwrs nid oes dim y gallwn ni ei wneud am y peth gan ei fod yn wasanaeth sy'n cael ei redeg yn breifat, nid yw'n cael cymhorthdal, nid oes unrhyw ddylanwad. Felly, yn yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd y Llywodraeth yn ceisio cyflwyno deddfwriaeth i sicrhau gwell cysondeb o ran cyflenwad gwasanaethau, i sicrhau nad ydym ni'n gweld sefyllfa lle mae gwasanaethau yn dod i ben yn sydyn oherwydd bod gweithredwr wedi mynd yn fethdalwr neu wedi penderfynu peidio â rhedeg y gwasanaeth mwyach. Ac rwy'n credu y bydd creu'r sicrwydd hwnnw i deithwyr yn arwain at niferoedd gwell ar gyfer y bysiau, oherwydd ni fydd pobl yn meddwl, 'Wel, efallai yr af i ar y bws, ond a fydd e'n dod? A fydd y gwasanaeth yn dal i fod yno y flwyddyn nesaf?' Mae'n gwbl hanfodol, oherwydd yn y rhan fwyaf o rannau o Gymru mae gennym ni'r hyn sydd, i bob pwrpas, yn fonopoli preifat. Nid oes unrhyw gystadleuaeth gwirioneddol ar hyd y rhan fwyaf o lwybrau. Nid dyma yr oedd preifateiddio bysiau, hyd yn oed os oeddech chi'n cytuno ag ef yn y 1980au, i fod i'w wneud, felly mae'n rhaid i ni ystyried model newydd nawr sy'n edrych ar wasanaethau bysiau fel yn union hynny, gwasanaethau yn hytrach na rhywbeth a ddarperir yn gyfan gwbl trwy gystadleuaeth nad yw'n bodoli mewn gwirionedd.
Prif Weinidog, hoffwn ganolbwyntio ar fynediad i bobl anabl at drafnidiaeth gyhoeddus, ac yn benodol y diffyg mynediad parhaus yng ngorsaf y Fenni. Soniasoch am y rhwydwaith rheilffyrdd a phwysigrwydd hwnnw a'r fasnachfraint newydd. Nid aethom ni ymhell iawn o dan hen fasnachfraint de Cymru a'r gororau Arriva o ran ymdrin â phroblemau diffyg mynediad i bobl anabl, er mawr rwystredigaeth i bobl leol yn fy etholaeth i, gan gynnwys yr ymgyrchydd blaenllaw dros fynediad i bobl anabl, Dan Biddle. Tybed a allwch chi roi sicrwydd i ni, o dan strwythur newydd Trafnidiaeth Cymru ac o dan y fasnachfraint newydd, wrth i ni symud ymlaen, y bydd y gwelliannau angenrheidiol yn cael eu gwneud nawr fel y bydd teithwyr ar y rheilffyrdd ledled Cymru yn gallu elwa ar fynediad dilyffethair, pa un a ydyn nhw yn abl neu'n anabl.
Gallaf, dyrannwyd £15 miliwn at y diben hwnnw. Mae gorsaf y Fenni yn un o'r gorsafoedd a fydd yn cael ei huwchraddio i sicrhau—wel, nid 'uwchraddio' yw'r gair cywir, mewn gwirionedd. Bydd yn sicrhau bod yr hyn a ddylai fod yn arferol, h.y. mynediad i bobl anabl, yno. Ceir gorsafoedd eraill hefyd. Roeddwn i yng ngorsaf Cathays ddoe. Nid yw'n bosibl i bobl groesi i ochr arall y cledrau yn Cathays—mae pont, ond nid oes unrhyw ffordd arall o wneud hynny; bydd angen datrys hynny hefyd. Ond gallaf ei sicrhau y bydd y gwaith hwnnw yn cael ei wneud yn y Fenni, sydd yn orsaf bwysig.
Mae adroddiad canllawiau gwerthuso trafnidiaeth Cymru sy'n cynnig cau cyffordd 41 tua'r gorllewin yn dweud bod nod o geisio lleddfu tagfeydd yn yr ardal benodol honno, ac maen nhw'n ceisio dweud bod angen i bobl gael allan o'u ceir, rhywbeth y byddwn i'n cytuno ag ef. Ond yn yr ardal benodol honno, rydym ni wedi gweld amseroedd bysiau yn cael eu hisraddio ar hyd dyffryn Afan, ac nid yw masnachfraint Trafnidiaeth Cymru newydd mor fuddiol i'r de-orllewin ag yr hoffem iddi fod. Rydym ni'n gweld cynigion enfawr o ran cyllid sydd i'w gyfrannu at ddarn o'r M4 yr ydym yn anghytuno ag ef. Felly, sut ydych chi'n mynd i wireddu bwriadau'r adroddiad hwnnw pan fo trafnidiaeth gymunedol ymhell o fod yn berffaith yma yng Nghymru, a dyna hanes eich Llywodraeth?
Yn gyntaf oll, mae'r hyn y mae'n sôn amdano yn brosiect cyfalaf, yr M4, a'r hyn a fydd yn gyllid refeniw o ran gwasanaethau bysiau; maen nhw'n ddau wahanol bot i ddechrau. Ond nid yw'n iawn i ddweud na fydd y de-orllewin yn elwa, oherwydd nid yw'r metro yn ymwneud â threnau yn unig, nid yw'n ymwneud â rheilffyrdd ysgafn yn unig, mae hefyd yn ymwneud â gwasanaethau bws. Nawr, wrth gwrs, mae gwasanaethau bws wedi eu datganoli i'r sefydliad hwn yn ddiweddar; mae cyfle nawr i ni wneud yn siŵr bod gwasanaethau bws yn cael eu hintegreiddio'n iawn i'r gwasanaethau trên. Ond, o reidrwydd, gan fod gennym ni reolaeth dros y gwasanaethau trên erbyn hyn, bydd hynny'n cael ei ddatblygu dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt, ac yna, wrth gwrs, yn amodol ar y ddeddfwriaeth, bydd gwasanaethau bws, gan gynnwys y rhai yn nyffryn Afan, yn cael eu cynnwys mewn rhwydwaith metro gwirioneddol.