Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 16 Hydref 2018.
Rydym ni wedi edrych ar hwn. Nid yw e mor rhwydd â hynny achos: beth sy’n digwydd wedyn, er enghraifft, yng Nghaerdydd, lle mae yna lot fawr o fflatiau yn cael eu hadeiladu, rhai ohonyn nhw’n ail gartrefi? A ydy hynny’n meddwl bod rhaid cael, er enghraifft, caniatâd cynllunio i bob un o'r rheini? Ac yn enwedig gydag ail gartref—beth yw ail gartref? Os oes rhywun, efallai, yn byw mewn un am hanner yr amser ac un am yr hanner arall, pa un yw’r ail gartref? Os yw e yn Lloegr, wrth gwrs, gallan nhw ddweud, ‘Wel, hwn yw fy nghartref i, ac mae fy ail gartref yn Lloegr.’ So, rwy’n deall y pwynt mae’r Aelod yn ei wneud, ond nid yw e cweit mor rhwydd â hynny.
Beth, felly, yw’r ateb? Wel, rydym ni wedi, wrth gwrs, sicrhau bod cynghorau’n gallu codi mwy o dreth cyngor ar ail gartrefi, rydym ni wedi sicrhau bod y rheini sydd yn prynu ail gartrefi yn talu mwy dan y dreth prynu tir, mae hynny’n wir hefyd. Ond hefyd, wrth gwrs, mae’n rhaid cael system cynllunio sydd yn sensitif i’r iaith, yn enwedig, ond, ar ddiwedd y dydd, mwy o dai sydd eu heisiau er mwyn sicrhau nad yw pobl leol yn gorfod cystadlu â phobl dŵad, a hefyd eu bod nhw’n gallu cael cymysgedd o dai i ddewis ohonynt er mwyn bod tai ar gael yn yr ardal. So, mae’n rhaid cael mwy o dai a mwy o dai fforddiadwy er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu byw yn eu cymunedau. Rwy'n deall, mewn rhai cymunedau o Gymru, mae hynny’n anodd.