1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Hydref 2018.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru tuag at drethi ail gartrefi? OAQ52794
Rydym ni’n datblygu ein polisïau trethu i ateb anghenion penodol Cymru, yn unol â’r egwyddorion yn ein fframwaith polisi trethu. Mae hyn yn cynnwys ein polisi ar drethu ail gartrefi.
Rydw i’n siŵr eich bod chi’n cytuno bod y ffaith bod £5 miliwn o bobl Prydain bellach yn berchen ar ddau neu fwy o gartrefi tra bod bron i 700,000 o bobl yn ddibynnol ar becynnau bwyd gan yr elusen Trussell Trust yn un o’r arwyddion cliriaf fod ein cymdeithas yn un gynyddol annheg ac anghydradd.
Bellach, mae yna 5,000 o ail gartrefi yng Ngwynedd, tra bod bron i 2,000 ar y gofrestr aros am dŷ cymdeithasol yn y sir. Rydw i'n falch o weld eich bod chi, o’r diwedd, yn dilyn pwysau gan Blaid Cymru, yn dechrau mynd i’r afael â’r anomali sy’n golygu nad ydy rhai perchnogion ail gartrefi yn talu trethi cyngor na threthi busnes, sy’n golled anferth i’r pwrs cyhoeddus. Ond mae yna lawer iawn mwy angen ei wneud i helpu teuluoedd sy’n cael eu prisio allan o’r farchnad gan bresenoldeb nifer cynyddol o ail gartrefi yn eu cymunedau. Un peth syml y gellid ei wneud yng Nghymru ydy newid bychan i’r system cynllunio: ei gwneud hi’n ofynnol i unrhyw annedd gael caniatâd cynllunio cyn y gellid ei droi’n ail gartref a fyddai wedyn yn galluogi cynghorau i gael gwell rheolaeth ar y sefyllfa. A ydych chi’n cytuno bod angen y newid yma ar fyrder?
Rydym ni wedi edrych ar hwn. Nid yw e mor rhwydd â hynny achos: beth sy’n digwydd wedyn, er enghraifft, yng Nghaerdydd, lle mae yna lot fawr o fflatiau yn cael eu hadeiladu, rhai ohonyn nhw’n ail gartrefi? A ydy hynny’n meddwl bod rhaid cael, er enghraifft, caniatâd cynllunio i bob un o'r rheini? Ac yn enwedig gydag ail gartref—beth yw ail gartref? Os oes rhywun, efallai, yn byw mewn un am hanner yr amser ac un am yr hanner arall, pa un yw’r ail gartref? Os yw e yn Lloegr, wrth gwrs, gallan nhw ddweud, ‘Wel, hwn yw fy nghartref i, ac mae fy ail gartref yn Lloegr.’ So, rwy’n deall y pwynt mae’r Aelod yn ei wneud, ond nid yw e cweit mor rhwydd â hynny.
Beth, felly, yw’r ateb? Wel, rydym ni wedi, wrth gwrs, sicrhau bod cynghorau’n gallu codi mwy o dreth cyngor ar ail gartrefi, rydym ni wedi sicrhau bod y rheini sydd yn prynu ail gartrefi yn talu mwy dan y dreth prynu tir, mae hynny’n wir hefyd. Ond hefyd, wrth gwrs, mae’n rhaid cael system cynllunio sydd yn sensitif i’r iaith, yn enwedig, ond, ar ddiwedd y dydd, mwy o dai sydd eu heisiau er mwyn sicrhau nad yw pobl leol yn gorfod cystadlu â phobl dŵad, a hefyd eu bod nhw’n gallu cael cymysgedd o dai i ddewis ohonynt er mwyn bod tai ar gael yn yr ardal. So, mae’n rhaid cael mwy o dai a mwy o dai fforddiadwy er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu byw yn eu cymunedau. Rwy'n deall, mewn rhai cymunedau o Gymru, mae hynny’n anodd.
Prif Weinidog, rwy'n cytuno bod tai yn ased gwahanol i unrhyw un arall, mewn gwirionedd, a bod yn rhaid ei drin gan gadw'r dimensiwn cymdeithasol yn flaenllaw yn ein meddyliau. Am y rheswm hwn, rwy'n cytuno y gall y Llywodraeth edrych ar bolisïau fel premiwm ar y dreth gyngor. Pan fyddwch chi'n gwneud hynny, fodd bynnag, oni ddylai fod yn ganllaw hefyd, o leiaf, bod unrhyw refeniw ychwanegol a gynhyrchir drwy hynny yn cael ei ail-fuddsoddi wedyn mewn tai fforddiadwy a chymdeithasol?
Wel, byddwn yn gobeithio bod cynghorau lleol yn gwneud hynny beth bynnag. Rydym ni'n gwybod bod llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n adeiladu tai cyngor. Rydym ni'n gwybod yng Nghymru wledig yn arbennig—rwy'n credu mai Powys yw'r enghraifft yr wyf i'n ei defnyddio bob amser, mae'n debyg ei bod wedi gwerthu hanner ei stoc tai cymdeithasol o ddiwedd y 1970au ymlaen. Gwerthwyd cynifer o dai ac nid aethon nhw fyth yn ôl i ddwylo'r bobl a allai fforddio eu prynu gan fod y prisiau wedi codi gymaint. Felly, ydy, mae'n hynod bwysig bod mwy o dai fforddiadwy—bydd rhai yn cael eu rhentu, rhai ddim. Roeddwn i gyda chwmni adeiladu yr wythnos diwethaf, er enghraifft, a ddywedodd wrthyf fod 70 y cant o'r tai y maen nhw'n eu gwerthu yn cael eu gwerthu trwy Cymorth i Brynu, a heb hynny mae'n debyg y bydden nhw'n ei chael hi'n anodd cynnal eu lefel presennol o weithgarwch.
Ond mae'n bwysig dros ben ein bod ni'n gallu darparu mwy o dai ledled Cymru, ond yn enwedig yng Nghymru wledig, lle nad oes cymaint o ddewis o ran maint tŷ ac o ran pris. Sut byddwn ni'n gwneud hynny? Wel, wrth gwrs, rydym ni ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn diwedd y tymor Cynulliad hwn, a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol.