Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 16 Hydref 2018.
Gallaf, dyrannwyd £15 miliwn at y diben hwnnw. Mae gorsaf y Fenni yn un o'r gorsafoedd a fydd yn cael ei huwchraddio i sicrhau—wel, nid 'uwchraddio' yw'r gair cywir, mewn gwirionedd. Bydd yn sicrhau bod yr hyn a ddylai fod yn arferol, h.y. mynediad i bobl anabl, yno. Ceir gorsafoedd eraill hefyd. Roeddwn i yng ngorsaf Cathays ddoe. Nid yw'n bosibl i bobl groesi i ochr arall y cledrau yn Cathays—mae pont, ond nid oes unrhyw ffordd arall o wneud hynny; bydd angen datrys hynny hefyd. Ond gallaf ei sicrhau y bydd y gwaith hwnnw yn cael ei wneud yn y Fenni, sydd yn orsaf bwysig.