Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 16 Hydref 2018.
Fel yr ydych chi wedi sôn, yn rhan o'r ymadawiad â'r cynllun hwn yn 2015, rhoddwyd cyfyngiad benthyg o £1.85 biliwn ar gynghorau a gadwodd stoc tai. O gofio bod Theresa May wedi cyhoeddi na fydd gan gynghorau yn Lloegr gyfyngiad ar eu gallu i fenthyg er mwyn adeiladu cartrefi newydd, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymchwilio i aildrafod y cytundeb presennol gyda'r Trysorlys? Wedi'r cyfan, mae'n gwneud mwy o synnwyr i fenthyg i adeiladu cartrefi lle nad oes hawl i brynu, fel sy'n wir yng Nghymru, nag yn Lloegr, lle y gellir adeiladu cartrefi ac yna eu gwerthu am lai na gwerth y farchnad. Yng Nghymru, bydd y buddsoddiad hwnnw yn parhau i gael ei ddychwelyd dros y tymor hir.