1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Hydref 2018.
8. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ddiwygio'r cynllun cymhorthdal cyfrif refeniw tai? OAQ52800
Wel, rwy'n falch, yn dilyn yr ymadawiad â'r system cymhorthdal cyfrif refeniw tai, bod gan yr holl awdurdodau yr effeithiwyd arnynt strategaeth adeiladu tai cyngor ar waith. Maen nhw i gyd ar wahanol gamau ac rydym ni'n gweithio gyda nhw i gynyddu cyflymder a maint eu cynlluniau.
Fel yr ydych chi wedi sôn, yn rhan o'r ymadawiad â'r cynllun hwn yn 2015, rhoddwyd cyfyngiad benthyg o £1.85 biliwn ar gynghorau a gadwodd stoc tai. O gofio bod Theresa May wedi cyhoeddi na fydd gan gynghorau yn Lloegr gyfyngiad ar eu gallu i fenthyg er mwyn adeiladu cartrefi newydd, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymchwilio i aildrafod y cytundeb presennol gyda'r Trysorlys? Wedi'r cyfan, mae'n gwneud mwy o synnwyr i fenthyg i adeiladu cartrefi lle nad oes hawl i brynu, fel sy'n wir yng Nghymru, nag yn Lloegr, lle y gellir adeiladu cartrefi ac yna eu gwerthu am lai na gwerth y farchnad. Yng Nghymru, bydd y buddsoddiad hwnnw yn parhau i gael ei ddychwelyd dros y tymor hir.
Mae hynny'n wir. £1,927 miliwn yw'r cyfyngiad benthyg ar hyn o bryd. Gwelais gyhoeddiad Prif Weinidog y DU. Mae swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â chynrychiolwyr yn Llywodraeth y DU i weld sut y bydd hynny'n gweithio, ac rwy'n credu ei bod hi'n deg i ddweud ei bod yn ymddangos nad oes neb yn gwybod ar hyn o bryd. Gwnaed y cyhoeddiad. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw fanylion. Ond gallaf sicrhau'r Aelod y byddem yn disgwyl i'r hyn sy'n berthnasol yn Lloegr o ran hyblygrwydd fod yn berthnasol yng Nghymru.
Diolch i'r Prif Weinidog.