Trethu Ail Gartrefi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 16 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:09, 16 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, byddwn yn gobeithio bod cynghorau lleol yn gwneud hynny beth bynnag. Rydym ni'n gwybod bod llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n adeiladu tai cyngor. Rydym ni'n gwybod yng Nghymru wledig yn arbennig—rwy'n credu mai Powys yw'r enghraifft yr wyf i'n ei defnyddio bob amser, mae'n debyg ei bod wedi gwerthu hanner ei stoc tai cymdeithasol o ddiwedd y 1970au ymlaen. Gwerthwyd cynifer o dai ac nid aethon nhw fyth yn ôl i ddwylo'r bobl a allai fforddio eu prynu gan fod y prisiau wedi codi gymaint. Felly, ydy, mae'n hynod bwysig bod mwy o dai fforddiadwy—bydd rhai yn cael eu rhentu, rhai ddim. Roeddwn i gyda chwmni adeiladu yr wythnos diwethaf, er enghraifft, a ddywedodd wrthyf fod 70 y cant o'r tai y maen nhw'n eu gwerthu yn cael eu gwerthu trwy Cymorth i Brynu, a heb hynny mae'n debyg y bydden nhw'n ei chael hi'n anodd cynnal eu lefel presennol o weithgarwch.

Ond mae'n bwysig dros ben ein bod ni'n gallu darparu mwy o dai ledled Cymru, ond yn enwedig yng Nghymru wledig, lle nad oes cymaint o ddewis o ran maint tŷ ac o ran pris. Sut byddwn ni'n gwneud hynny? Wel, wrth gwrs, rydym ni ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn diwedd y tymor Cynulliad hwn, a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol.