Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 16 Hydref 2018.
Ie, wel, fe wnaeth Jack Sargeant yn dda iawn i werthu cymaint. Mae'n rhaid cyfaddef, mae hynny'n curo fy record innau hefyd. Ond mae'n rhoi syniad da i chi o sut beth ydyw mewn gwirionedd i sefyll yno fel gwerthwr stryd, a chael pobl yn eich anwybyddu fel pe na byddech chi yno. Ni allaf bwysleisio digon, ar y cyd gydag ef a Bethan, a gwn ei bod hithau wedi gwneud hyn ers cryn amser hefyd, cymaint o wahaniaeth y gallai siarad â rhywun ei wneud, a dweud, os na allwch chi brynu un, pam na allwch chi wneud hynny ac yn y blaen? Rwy'n prynu fy nghopi i o'r Big Issue gan yr un person bob tro, gan egluro i eraill bob amser pam yr wyf i'n credu y dylwn roi fy arian i rywun yr wyf wedi bod yn ei chefnogi ers tro byd bellach.
Ond hoffwn hefyd dynnu sylw'r Aelodau at y ffaith bod apiau ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd y cynghorau yng Nghymru bellach—StreetLink neu apiau cysgu ar y stryd; Gallwch chwilio Google amdanynt—maen nhw'n rhoi gwybodaeth am yr hyn y gallwch chi ei wneud os ydych chi'n gweld rhywun sy'n agored iawn i niwed, rhywun yr ydych chi'n meddwl sydd angen cymorth dewisiadau digartref neu'r dewisiadau tai neu beth bynnag a gynigir gan eich cyngor lleol—. Ac rwy'n argymell bod pobl yn cael gafael ar y rhain, oherwydd gallen nhw fod yn ddefnyddiol iawn, ac maen nhw yn dweud beth yw'r peth gorau i'w wneud os nad ydych yn dymuno rhoi arian—i brynu bwyd neu ddillad neu beth bynnag, neu rywbeth y gallai'r person ei ddefnyddio ar unwaith i'w gynnal am ychydig, ac i'w cyfeirio at y mannau cywir. Felly, cymeradwyaf y pethau hynny i gyd.
Hefyd, Llywydd, rwyf am ymhyfrydu ychydig, os gwnewch chi ganiatáu i mi wneud hynny, trwy ddweud fy mod i'n falch iawn bod pêl-droed digartrefedd yn dod i Gymru hefyd—pêl-droed ar y stryd—ac fy mod i'n wirioneddol falch o hynny. Rwy'n gefnogwr brwd o'r fenter honno yn fy etholaeth fy hun, a gwn y bydd Cymru yn falch iawn i'w gynnal yma.