Part of the debate – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 16 Hydref 2018.
Arweinydd y Tŷ, mae'r gaeaf ar y gorwel, ac unwaith eto, mor anochel â'r nos ar ddiwedd dydd—byddaf yn fwy gofalus gyda'm hymadroddion yn y dyfodol—mae'r A4042, sy'n llwybr strategol allweddol yn fy etholaeth i rhwng y gogledd a'r de, wedi cau unwaith eto yn Llanelen, o ganlyniad i lifogydd—problem gyffredin. A gaf i ofyn am y newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru o ran ein sefyllfa wrth wella'r rhan hon o'r ffordd? Gwn y bu trafodaethau yn y gorffennol rhwng Llywodraeth Cymru a thirfeddianwyr lleol o ran canfod ateb ar gyfer y ffordd. Unwaith eto, y mae wedi achosi problemau enfawr i gymudwyr yn ogystal â phobl leol, a chyda'r ganolfan gofal critigol yn prysur ddatblygu yn Llanfrechfa Grange yng Nghwmbrân, bydd yn bwysicach nag erioed fod y ffordd hon yn agored bob amser, fel bod ambiwlansys, a fu'n arfer cludo pobl i Ysbyty Nevill Hall, bellach yn gallu cyrraedd y ganolfan gofal critigol arbenigol yn Llanfrechfa. Felly, mae pwysigrwydd y llwybr yn cynyddu yn hytrach na lleihau, ac mae'r bobl leol yn gofyn am atebion gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer y tymor byr a'r tymor hwy, fel nad yw pobl leol yn dioddef y tarfu y maen wedi'i ddioddef yn ystod y blynyddoedd diwethaf.