Part of the debate – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 16 Hydref 2018.
Roeddwn i'n meddwl tybed a allwn ni gael dadl am draffig cyffredinol a mesurau rheoli llygredd ar brif ffyrdd Cymru, os gwelwch yn dda? Mae hyn yng nghyd-destun y ffaith fy mod i, neithiwr, wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus gorlawn i drafod y bwriad o gau cyffordd 41 tua'r gorllewin. Nawr, bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar bobl Port Talbot. Ac mae yna ffyrdd eraill yng Nghymru lle rwy'n credu bod angen inni drafod lefelau llygredd, a sut y gallwn gynnwys y cyhoedd yn y mathau hyn o ymgynghoriadau. Er enghraifft, mae gennym adroddiad ar hyn o bryd ar y newidiadau arfaethedig ar gyfer yr M4 ger Port Talbot, ond mae'n adroddiad eithaf hir a swmpus, ac mae'n eithaf manwl, ac yn anodd ei ddarllen ar brydiau. Ac rwy'n credu bod—. Pan ddaw'r ymgynghoriad i ben ar 2 Tachwedd, sut ydym ni'n mynd i ennyn brwdfrydedd y bobl hyn i ymgysylltu ac i geisio lleddfu rhai o'r problemau hyn, os nad yw'r Llywodraeth yn rhoi digon o amser, neu ddigon o barch, o bosibl, i siarad â'r gymuned am hynny? Nawr, rydym ni wedi ymladd yr ymgyrch hon eisoes yn 2013-14, a llwyddwyd i'w atal rhag digwydd; nawr, mae'r mater wedi codi dod i'r wyneb unwaith eto, ac wrth reswm mae'r cyhoedd yn flin am y cynnig hwn. Felly, rwy'n awyddus i geisio ymgysylltu â nhw mewn ffordd gadarnhaol, i edrych ar ddewisiadau arall yn hytrach na chau, i edrych ar ddewisiadau sy'n well i'r amgylchedd na'r cau, fel ein bod ni'n wybodus yn y ddadl, yn hytrach na dim mwy na thystion i benderfyniad sydd eisoes wedi'i wneud.