Part of the debate – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 16 Hydref 2018.
Mewn gwirionedd, nid yw hynny'n hollol wir. Wrth gwrs, mae'r ymgynghoriad yn dal i fod ar waith ar hyn o bryd, ac yn sicr rydym yn cydnabod y gefnogaeth leol i gadw Cyffordd 41 yr M4 yn agored. Mae gennym ni ddyletswydd gyfreithiol i gyflwyno dewisiadau yn rhan o'r broses ymgynghori, proses sy'n cael ei chwblhau ar y funud. Yr ymgynghoriad yw cam nesaf y broses, ac wrth geisio barn ar y mesurau arfaethedig, rydym yn ystyried sut i leihau'r lefelau niweidiol o nitrogen deuocsid mewn pum lleoliad yng Nghymru. Un ohonyn nhw, fel y mae'r Aelod yn gywir i ddweud, yw'r drosffordd ym Mhort Talbot a chyffordd 41. Mae'n rhaid inni ystyried y mesurau yn erbyn y meini prawf sydd wedi'u gosod, ac yn erbyn ein hamcanion, a chofio fod bod yn agored i lefelau uwch o lygredd aer yn fygythiad i fywyd. Nid defnyddwyr y ffordd yw ein prif bryder bob amser, mae'n rhaid ystyried y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn agos at y ffyrdd dan sylw hefyd. Ac er nad yw'n sicr yn un o'r mesurau â ffefrir, ni ellir ei ddiystyru ar hyn o bryd. Mae'n rhan o'r ymgynghoriad, ac rydym yn argymell fod barnau pobl yn cael eu cynnig yn rhan o'r ymgynghoriad ar y mesurau arfaethedig. Er gwybodaeth i'r holl Aelodau sydd â diddordeb ac i'r cyhoedd, Llywydd, mae'r ymgynghoriad yn agored tan 2 Tachwedd 2018.