Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 16 Hydref 2018.
Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Fel Angela Burns, rwy'n anfon fy nghydymdeimlad dwysaf at deulu a ffrindiau Corey Sharpling, a fu farw yn anffodus mewn tirlithriad. Ac rwyf hefyd yn cydymdeimlo â phobl eraill yn y DU a fu farw neu sydd wedi dioddef anaf yn y storm ddiweddar. Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn y lle hwn yn gwneud eu gorau glas i'w helpu nhw a'r bobl hynny y mae eu cartrefi a'u busnesau wedi'u difrodi gan y gwyntoedd cryf a'r llifogydd a achoswyd gan storm Callum. Hoffwn hefyd ategu'r diolch a'r gwerthfawrogiad i'r gwasanaethau brys ac eraill ac aelodau o'r cyhoedd a weithiodd i helpu eu ffrindiau, cymdogion a phobl eraill drwy'r anawsterau a achoswyd gan y storm.
Rwy'n sylweddoli y bydd rhai cymunedau wedi elwa'n fawr o amddiffynfeydd rhag llifogydd sydd eisoes yn bodoli, ond, mewn rhai mannau, ni fu'r amddiffynfeydd hynny, yn amlwg, yn ddigonol, ac, wrth reswm, bydd preswylwyr yn bryderus. Felly, a wnewch chi gadarnhau beth fyddwch chi'n ei wneud i adolygu'r amddiffynfeydd rhag llifogydd, mewn cymunedau sydd â nhw eisoes a mannau lle mae trigolion a busnesau yn teimlo o bosib eu bod ar eu colled?
Rydych chi wedi cydnabod yn eich datganiad bod anifeiliaid wedi eu dal yn y llifogydd, a bu achosion o ddefaid yn cael eu golchi ymaith ac anifeiliaid eraill yn sownd. Hoffwn ofyn i chi pa gymorth all Llywodraeth Cymru ei gynnig i'r ffermwyr hynny sydd wedi colli da byw ac sydd bellach â da byw sydd wedi'u hanafu oherwydd y llifogydd. Ceir adroddiadau hefyd o geffylau yn gorfod cael eu hachub o ddŵr y llifogydd. Felly, a ydych chi'n fodlon bod adnoddau priodol a digon o wybodaeth ar gael i helpu perchnogion ceffylau a pherchnogion anifeiliaid tebyg a ffermwyr hefyd i gynllunio ar gyfer, ac ymdopi â chanlyniadau llifogydd? Pa sgyrsiau yr ydych chi'n eu cael gyda ffermwyr ynghylch eu rhan nhw yn y gwaith o atal a lliniaru'r risg o lifogydd, a pha gymorth yr ydych chi'n ei gynnig iddyn nhw er mwyn iddyn nhw allu cyflawni hynny, mewn gwirionedd?
Mae Clwb Canŵio Padlwyr Llandysul yn fenter gymunedol ac mae eisoes wedi dechrau codi arian i fynd i'r afael â'r difrod a achoswyd, y maen nhw'n amcangyfrif sydd oddeutu £200,000. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cynnig rhyw faint o gefnogaeth i fentrau cymunedol sydd wedi'u heffeithio gan y tywydd garw? Ac mae darparu cyfleustodau yn effeithiol yn fater tyngedfennol i rai pobl—mewn ysbytai yn enwedig. Felly, pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael gyda chwmnïau cyfleustodau am eu hymateb i'r storm ac unrhyw heriau y gwnaethon nhw eu hwynebu y gall Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â nhw ar gyfer y dyfodol? Diolch.