Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 16 Hydref 2018.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad amserol. Hoffwn ddweud fy mod yn cytuno â'r sylwadau a wnaed ganddi hi ac Angela Burns, ac estyn fy nghydymdeimlad i—a Phlaid Cymru—at bawb sydd wedi'u heffeithio, fel sydd eisoes wedi'i fynegi yn gynharach gan Adam Price, ac yn enwedig i deulu a ffrindiau etholwr Adam, Corey Sharpling, a gollodd ei fywyd yn drasig. Roeddwn yn llawn tosturi o glywed y sylwadau a wnaeth Angela am sut y mae llawer o bobl ddewr wedi mynd yr ail filltir yn wir i ddiogelu eu hunain, eu ffrindiau a'u cymdogion ledled rhanbarth y canolbarth a'r gorllewin yn y cyfnod anodd hwn. Fe hoffwn i gytuno â sylwadau'r Gweinidog a sylwadau Angela Burns—y diolch y maen nhw wedi ei fynegi i'r gwasanaethau brys, i'r holl wasanaethau cyhoeddus, ac i staff yr awdurdod lleol ar draws y canolbarth a'r gorllewin a fu'n gweithio mor galed dros y penwythnos i gynorthwyo'r rhai hynny yr effeithiwyd arnynt. Cefais adborth cadarnhaol iawn, er enghraifft, gan etholwyr o ran pa mor ddefnyddiol fu'r llinellau cymorth brys yr oedd cynghorau Ceredigion a Chaerfyrddin yn eu cynnal yr adeg anodd iawn hon. Mae'n braf iawn gallu adrodd yn ôl ar sefyllfa frys ac ar ymateb i sefyllfa o'r fath yr ymddengys ei bod, mewn gwirionedd, yn gweithio i bobl. Rwy'n falch iawn bod y Gweinidog wedi gallu ymweld ag un o'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt, a gwn y bydd fy nghyd-Aelodau, Ben Lake AS, Jonathan Edwards AS ac Adam Price AC yn ymweld â mwy o ardaloedd yr effeithiwyd arnynt ddydd Gwener. Mae fy nghyd-Aelod Elin Jones AC, ein Llywydd ni, dros Geredigion wedi gofyn imi sôn yn benodol am ymdrechion y cymunedau eu hunain ac ymdrechion gwirfoddolwyr o'r trydydd sector i helpu gyda'r gwaith clirio ar ôl y storm ddinistriol hon.
Rhain oedd, wrth gwrs, y llifogydd gwaethaf a wynebodd llawer o'r cymunedau yn fy rhanbarth i ers 30 mlynedd, ond rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi bod effeithiau newid yn yr hinsawdd yn golygu bod y digwyddiadau eithafol hyn yn mynd i ddod yn fwy cyffredin. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod bellach yn bryd—? Ac mae hi wedi crybwyll cydgysylltu, ond credaf fod angen inni fynd â hyn ymhellach. A yw hi'n cytuno â mi ei bod hi bellach yn bryd i Lywodraeth Cymru ddatblygu cynllun addasu i newid yn yr hinsawdd i sicrhau ein bod yn gwbl barod a bod ein cymunedau wedi'u hamddiffyn yn ddigonol? Ac a wnaiff hi ymrwymo heddiw i drafod datblygu cynllun o'r fath gyda chydweithwyr ar draws y Llywodraeth ac i adrodd yn ôl i'r Siambr ar y cynnydd? Dydw i ddim yn awgrymu, Llywydd, nad yw Llywodraeth Cymru yn cymryd unrhyw gamau yn y maes hwn, ond credaf ei bod bellach yn bryd i ni, mewn gwirionedd, ystyried cydgysylltu'r gweithredu hwnnw hyd yn oed yn fwy effeithiol ar draws portffolios.
Yn ei datganiad, mae'r Gweinidog yn sôn bod yna gymunedau a gafodd eu diogelu'n llwyddiannus gan amddiffynfeydd llifogydd sy'n bodoli eisoes, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yr yn mor falch â hi yn hynny o beth, ond bydd hi'n ymwybodol y bu yna sefyllfaoedd lle cafodd amddiffynfeydd sydd eisoes yn bodoli eu torri, ac nid yw pob un ohonyn nhw'n amddiffynfeydd hirsefydlog. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo heddiw i adolygu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran buddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd, ac yn wir y math o amddiffynfeydd rhag llifogydd yr ydym ni yn eu defnyddio, yng ngoleuni'r toriadau hyn?
Yn ei datganiad, mae'r Gweinidog yn datgan na chaewyd ffyrdd oherwydd i'r seilwaith fethu. Gobeithio y byddai hi'n cytuno â mi bod angen inni fod yn addasu ein seilwaith i ddiwallu anghenion amseroedd newidiol iawn. Rwy'n siŵr ei bod hi'n ymwybodol, er enghraifft, fod y rhan fwyaf o'r pontydd ar draws afon Teifi wedi'u cau am gyfnodau hir, gan greu problemau sylweddol ar gyfer gwasanaethau brys, er enghraifft, o ran cyrraedd ysbyty Glangwili o Geredigion. A wnaiff hi ymrwymo heddiw i adolygu, gyda'r awdurdodau lleol a'r cyrff cyhoeddus, pa mor briodol yw'r seilwaith yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnyn nhw, gan roi sylw penodol i gryfder y pontydd dros afon Teifi ac afon Tawe? Mae rhai ohonyn nhw, fel y bydd hi'n ymwybodol, o gryn oedran ac mae'n bosibl y bydd grymuster y digwyddiad hwn wedi effeithio'n andwyol arnyn nhw.
O ran adnoddau, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni a yw Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â Llywodraeth San Steffan, neu a fyddwch chi'n gwneud hynny, gyda'r bwriad o fanteisio efallai ar y cymorth ariannol sydd ar gael o Gronfa Gydsefyll yr UE? Credaf y gallai hyn fod yn ffynhonnell werthfawr o adnoddau ychwanegol yn y cyfnod anodd hwn. A wnaiff hi—? Ac mae hi wedi crybwyll hyn, ond hoffwn bwyso arni ymhellach ar hyn—. Soniodd am hyn mewn ymateb i Angela Burns, ond a wnaiff hi roi sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo awdurdodau lleol yr effeithiwyd arnyn nhw drwy'r cynllun cymorth ariannol brys? Llywydd, ni fyddai neb yn disgwyl i'r Gweinidog roi pris ar hynny heddiw, ond rwy'n teimlo bod angen inni geisio sicrwydd ganddi y bydd cymorth ar gael, hyd yn oed os na all hi ddweud wrthym ni faint yn union ar hyn o bryd.
Ac, yn olaf, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni pa gymorth a all Llywodraeth Cymru ei gynnig i'r gymuned ffermio, y bydd llawer ohonyn nhw yn wynebu colledion dinistriol o ran offer a da byw? Diolch yn fawr.