Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 16 Hydref 2018.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw. Gallaf ddweud fy mod i'n ei chael hi'n eithaf doniol—mae'n debyg nad dyna'r gair cywir—pan fo'r Ceidwadwyr yn grwgnach a rhygnu am fformiwlâu cyllido, pan fo Cymru wedi ei hesgeuluso gan fformwla Barnett ers blynyddoedd meithion gydag ychydig iawn o wrthwynebiad o'r meinciau gyferbyn?
Yn amlwg, ceir cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar yr egwyddor sylfaenol o ran polisi rhanbarthol, na ddylai gadael yr Undeb Ewropeaidd olygu y bydd Cymru ar ei cholled, yn ariannol neu o ran cyfrifoldebau. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cymru yn cael swm blynyddol o £370 miliwn drwy gronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd ac ni ddylem ni golli ceiniog o'r arian hwnnw. Dyna'r addewid a wnaeth yr ymwahanwyr yn ystod y refferendwm ac fe ddylen nhw gadw at eu haddewidion.
Mae hi fodd bynnag yn werth cofio bod Cymru'n gymwys am gymaint o gymorth rhanbarthol o'r UE oherwydd yr esgeulustod economaidd hanesyddol y mae hi wedi ei ddioddef dan law Llywodraethau o bob lliw yn San Steffan, nad ydyn nhw erioed wedi rhoi sylw llawn i'n hanghenion economaidd. Mae ganddyn nhw dipyn o wyneb yn San Steffan yn awr os ydyn nhw'n dangos diddordeb mewn dwyn pwerau dros bolisi rhanbarthol, pan nad ydyn nhw dro ar ôl tro wedi dangos unrhyw ddiddordeb mewn polisi rhanbarthol, nid yn unig yng Nghymru ond mewn rhannau difreintiedig o Loegr a'r Alban, dros ddegawdau, yn arbennig ers iddyn nhw ddad-ddiwydiannu ein cymunedau yn fwriadol.
Llywydd, ni allai llawer mwy bod yn y fantol o ran cymorth rhanbarthol ac economi Cymru. Digalon yn ddiweddar oedd darllen adroddiad y Ganolfan Cynhwysiant Ariannol. Ynddo, maen nhw'n rhestru Cymru fel un o ranbarthau a chenedloedd mwyaf bregus yn y DU sy'n gadael yr Undeb Ewropeaidd o ran polisi rhanbarthol a pholisi economaidd ehangach. Roedd yr adroddiad yn dweud:
'Yn y sefyllfa waethaf, gallai rhai o'r rhanbarthau mwyaf bregus'— gan gynnwys Cymru—
'wynebu "ergyd driphlyg" …colled sylweddol iawn o allbwn economaidd posib...colli cyllid yr UE. Yn drydydd, oni bai y gellir parhau i drosglwyddo cyllid o rannau cryfach o economi'r DU i'r un graddau er mwyn lliniaru'r effeithiau hyn, gallai'r ysgytwad economaidd, rhwng popeth, fod yn ddifrifol.'
Dyna eiriau adroddiad y Ganolfan Cynhwysiant Ariannol.
O ran datganiad heddiw, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad y bydd camau'n cael eu cymryd i greu'r seilwaith ar gyfer polisi rhanbarthol newydd i Gymru wedi inni ymadael. Fodd bynnag, ni allaf beidio â phryderu y gwneir yr holl waith paratoi hwn dim ond i gael ein bwrw oddi ar ein hechel pan gyhoeddodd Lywodraeth San Steffan y caiff polisi rhanbarthol ei ganoli yn Llundain. Bydd yn ddiddorol gwybod beth yw barn Ysgrifennydd y Cabinet am y sylwadau a wnaeth Prif Weinidog y DU yn ystod cynhadledd y Blaid Dorïaidd i'r cyfryngau. O'r hyn a ddeallais o'r hyn a ddywedodd, roedd hi'n awgrymu yn hytrach na darparu'r arian a addawyd i Gymru, y byddai polisi rhanbarthol newydd drwy'r gronfa ffyniant gyffredin honedig yn cynnwys rheolau ar gyfer y DU, wedi eu penderfynu yn San Steffan, yn cael eu gorfodi gan San Steffan, ac y penderfynir ar wario yn Whitehall hefyd. Roedd hynny yn ddychrynllyd iawn. Ymhell o fod—. Os ydym ni eisiau sôn am fydoedd cyfochrog, mae sôn am warantu pob un geiniog a phŵer sydd gennym ni ar hyn o bryd yn gwbl groes i'r hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU mewn datganiadau i'r cyfryngau, cyn belled ag y gwelaf i, beth bynnag.
Yn ei ddatganiad, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud nad yw'n disgwyl trafodaethau ystyrlon ar drefniadau cyllido olynol tan adolygiad gwariant 2019. A all egluro, a yw'n credu na fydd unrhyw drafodaethau ynghylch y polisi ei hun, neu a yw'n golygu sut caiff y polisi hwnnw ei gyllido? Hynny yw, a yw'n disgwyl cael trafodaeth ystyrlon ar y polisi, hynny yw, ei fod wedi'i ddatganoli ac y bydd yn aros wedi ei ddatganoli, ac yna bydd gennym ni well syniad o union natur y cyllid oddeutu adeg adolygiad gwariant 2019? Oherwydd mae angen inni wybod yn eithaf buan beth yn union yw bwriadau polisi Llywodraeth y DU. Nid yw'n dderbyniol llusgo traed ar hyn, gan roi pwysau ar lywodraethau datganoledig, fel y maen nhw, i wneud paratoadau yn seiliedig ar y sefyllfa orau, pan rwyf yn anffodus yn ofni y gallai'r sefyllfa waethaf ein hwynebu. Felly, a yw trafodaethau ffurfiol ar y gweill? Oes mwy wedi eu trefnu? A oes amserlen glir ar gyfer penderfynu ar ffurf polisi rhanbarthol y dyfodol cyn gynted â phosib?
Hefyd, o ran y ddadl wleidyddol ehangach a fydd yn digwydd bellach yn y DU wrth i hyn ddod yn fater o bwysigrwydd cynyddol, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: beth yw polisi Plaid Lafur y DU? A fyddan nhw yn cydweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru yn hyn o beth o ran polisi rhanbarthol ar feinciau blaen Llafur yn San Steffan? A fyddan nhw'n pleidleisio yn erbyn unrhyw ymdrechion yn Nhŷ'r Cyffredin i gymryd pwerau polisi rhanbarthol o Gymru? Pa drafodaethau y mae wedi'u cael â'i gymheiriaid yn ei blaid ar lefel y DU yn hynny o beth?
Yn hanfodol i hyn i gyd, os oes trafodaethau ar y gweill, neu os caiff trafodaethau eu cynnal yn fuan, a all Ysgrifennydd y Cabinet wneud addewid pendant i Aelodau yma heddiw, mewn unrhyw drafodaethau ar negodi gyda Llywodraeth y DU, na fydd yn ildio ein harian yn y ffordd yr ildiodd rai o'n pwerau y tro diwethaf iddo daro bargen â San Steffan?